Atgofion Nadoligau Corrie Ten Boom Sampl
Nadolig cyn Blynyddoedd y Rhyfel
“Ti wedi lluosogi’r genedl, a’i gwneud yn hapus iawn...” - Eseia 9:3
Roedd Rhagfyr bob amser yn fis prysur iawn i Betsie a Corrie ten Boom. Gyda'i gilydd roedden nhw'n gweithio fel tîm go iawn ac yn aml yn gorfod siarad mewn tua deg o ddathliadau Nadolig gwahanol. Pryd bynnag y caen nhw wahoddiad a chael y cyfle, buon nhw’n siarad mewn clybiau ieuenctid, ysgolion Sul, ysbytai, grwpiau milwrol ac eglwysi.
Roedden nhw bob amser yn adrodd stori’r Nadolig o Luc 2 a stori Nadolig o’r enw “Father Martin” a elwir hefyd yn stori “Papa Panov”. Yn y dathliad cyntaf wnaeth Corrie adrodd Luc 2, a adroddodd Betsie stori Tad Martin a'r tro wedyn wnaethon nhw'n gyfnewid a byddai Betsie yn siarad am Luc 2 a byddai Corrie yn gwneud Tad Martin. Derbyniodd pob plentyn oedd yn mynychu, oren. Lle bynnag roedd hynny'n bosibl rhoddwyd llyfryn Cristnogol a nod tudalen neu boster bach gydag adnod o'r Beibl arno, wedi'i addurno â blodau ac adar hardd. Ac wrth gwrs, fel hen draddodiad Iseldireg da, roedd llaeth siocled i bob ymwelydd.
Bu mis Rhagfyr hefyd yn fis prysur iawn i siop y gwneuthurwr watshis. Ac roedd Corrie yn aml yn flinedig iawn ar ôl diwrnod llawn o waith. Un tro aeth hi i un o’r gwleddoedd Nadolig, gan gadw cyfrif: “Dyma rif pedwar, pump arall i fynd, ac yna dŷn ni wedi gorffen gyda’r Nadolig!” Sylweddolodd yn sydyn mai agwedd anghywir oedd hon a gweddïo: “Arglwydd, rho’r wyrth i mi na fyddaf yn blino ond yn mwynhau bob dathliad Nadolig, hyd yn oed os yw’n rhif deg. Oherwydd mae cymaint o bobl yn cerdded mewn tywyllwch a nos a dylen nhw dderbyn gorfoledd a goleuni a phrofi’r llawenydd mawr rwyt ti'n ddod i'r byd hwn i'n hachub. Felly a wnei di roi dy lawenydd i ni ar gyfer pob dathliad fel y gallwn drosglwyddo'r llawenydd hwn i eraill?”
Atebodd Duw yn ei ddigonedd y weddi honno, a'r holl flynyddoedd hynny rhannodd Betsie a Corrie, â llawenydd mawr, y wyrth fod Duw wedi dod yn ddyn i gymodi pobl golledig ag ef ei hun trwy farw ar y groes am eu pechodau.
Cwestiwn
Wyt ti'n cydnabod y gall prysurdeb trefnu dy Nadolig ddileu'r llawenydd go iawn?Gweddi
Annwyl Arglwydd Iesu, Ti yw’r un a fydd yn cynyddu ein llawenydd fel y mae wedi’i gofnodi yn Eseia 9:3. Mae angen y llawenydd hwnnw arnom a dŷn ni am ddathlu dy ddyfodiad i'r ddaear a pheidio â mynd mor brysur fel ein bod ddim ond eisiau mynd trwy ddathliadau'r Nadolig, yn hytrach na llawenhau yn bwy wyt ti a pham wnes di ddod.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Yn y cynllun darllen hwn byddwn yn edrych ar Eseia 9 ac yn dysgu am y Nadoligau ddathlodd Corrie ten Boom adeg ei phlentyndod; cyn amser y rhyfel, ac yn y gwersyll-garchar Ravensbrück, 1944. Sgwennodd Corrie am y Nadoligau hyn ei hun yn ‘Corrie’s Christmas Memories’ (1976).
More