Ond ni fydd tywyllwch eto i'r sawl a fu mewn cyfyngder. Yn yr amser gynt bu cam-drin ar wlad Sabulon a gwlad Nafftali, ond ar ôl hyn bydd yn anrhydeddu Galilea'r cenhedloedd, ar ffordd y môr, dros yr Iorddonen. Y bobl oedd yn rhodio mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr; y rhai a fu'n byw mewn gwlad o gaddug dudew a gafodd lewyrch golau. Amlheaist orfoledd iddynt, chwanegaist lawenydd; llawenhânt o'th flaen fel yn adeg y cynhaeaf, ac fel y byddant yn gorfoleddu wrth rannu'r ysbail. Oherwydd drylliaist yr iau oedd yn faich iddynt, a'r croesfar oedd ar eu hysgwydd, a'r ffon oedd gan eu gyrrwr, fel yn nydd Midian.
Darllen Eseia 9
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 9:1-4
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos