Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 9

9
Geni Bachgen
1 # 9:1 Hebraeg, 8:23. Ond ni fydd tywyllwch eto i'r sawl a fu mewn cyfyngder. Yn yr amser gynt bu cam-drin ar wlad Sabulon a gwlad Nafftali, ond ar ôl hyn bydd yn anrhydeddu Galilea'r cenhedloedd, ar ffordd y môr, dros yr Iorddonen.
2Y bobl oedd yn rhodio mewn tywyllwch
a welodd oleuni mawr;
y rhai a fu'n byw mewn gwlad o gaddug dudew
a gafodd lewyrch golau.
3Amlheaist orfoledd#9:3 Tebygol. Hebraeg, y genedl ni. iddynt,
chwanegaist lawenydd;
llawenhânt o'th flaen fel yn adeg y cynhaeaf,
ac fel y byddant yn gorfoleddu wrth rannu'r ysbail.
4Oherwydd drylliaist yr iau oedd yn faich iddynt,
a'r croesfar oedd ar eu hysgwydd,
a'r ffon oedd gan eu gyrrwr,
fel yn nydd Midian.
5Pob esgid ar droed rhyfelwr mewn ysgarmes,
a phob dilledyn wedi ei drybaeddu mewn gwaed,
fe'u llosgir fel tanwydd.
6Canys bachgen a aned i ni,
mab a roed i ni,
a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd.
Fe'i gelwir, “Cynghorwr rhyfeddol, Duw cadarn,
Tad bythol, Tywysog heddychlon”.
7Ni bydd diwedd ar gynnydd ei lywodraeth,
nac ar ei heddwch
i orsedd Dafydd a'i frenhiniaeth,
i'w sefydlu'n gadarn â barn a chyfiawnder,
o hyn a hyd byth.
Bydd sêl ARGLWYDD y Lluoedd yn gwneud hyn.
Digofaint Duw yn Erbyn Israel
8Anfonodd yr ARGLWYDD air yn erbyn Jacob,
ac fe ddisgyn ar Israel.
9Gostyngir#9:9 Neu, Gŵyr. yr holl bobl—
Effraim a thrigolion Samaria—
sy'n dweud mewn balchder a thraha,
10“Syrthiodd y priddfeini,
ond fe adeiladwn ni â cherrig nadd;
torrwyd y prennau sycamor,
ond fe rown ni gedrwydd yn eu lle.”
11Y mae'r ARGLWYDD yn codi gwrthwynebwyr#9:11 Tebygol. Hebraeg, gwrthwynebwyr Resin. yn eu herbyn;
y mae'n cyffroi eu gelynion.
12Y mae Syriaid o'r dwyrain a Philistiaid o'r gorllewin
yn ysu Israel a'u safnau'n agored.
Er hynny ni throdd ei lid ef,
ac y mae'n dal i estyn allan ei law.
13Ond ni throdd y bobl at yr un a'u trawodd,
na cheisio ARGLWYDD y Lluoedd;
14am hynny tyr yr ARGLWYDD ymaith o Israel y pen â'r gynffon,
y gangen balmwydd a'r frwynen mewn un dydd;
15yr hynafgwr a'r anrhydeddus yw'r pen,
y proffwyd sy'n dysgu celwydd yw'r gynffon.
16Y rhai sy'n arwain y bobl hyn
sy'n peri iddynt gyfeiliorni;
a'r rhai a arweiniwyd sy'n cael eu drysu.
17Am hynny nid arbed#9:17 Felly Sgrôl A. TM, ni lawenycha. yr ARGLWYDD eu gwŷr ifainc,
ac ni thosturia wrth eu hamddifaid na'u gweddwon.
Y mae pob un ohonynt yn annuwiol a drygionus,
a phob genau yn traethu ynfydrwydd.
Er hynny ni throdd ei lid ef,
ac y mae'n dal i estyn allan ei law.
18Oherwydd y mae drygioni yn llosgi fel tân,
yn ysu'r mieri a'r drain,
yn cynnau yn nrysni'r coed,
ac yn codi'n golofnau o fwg.
19Gan ddigofaint ARGLWYDD y Lluoedd
y mae'r wlad ar dân;
y mae'r bobl fel tanwydd,
ac nid arbedant ei gilydd.
20Cipia un o'r dde, ond fe newyna;
bwyta'r llall o'r chwith, ond nis digonir.
Bydd pob un yn bwyta cnawd ei blant—
21Manasse Effraim, ac Effraim Manasse,
ac ill dau yn erbyn Jwda.
Er hynny ni throdd ei lid ef,
ac y mae'n dal i estyn allan ei law.

Dewis Presennol:

Eseia 9: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd