Dw i'n DewisSampl
Dewis Gweddi yn lle Poeni
Dyna ble ro'n i, yn gorwedd mewn twnnel gwyn. a dim ond fy meddyliau ac ambell i suo, glecian, neu bipian yn dod o grombil y peiriant. Pan ddaeth y symptomau i'r amlwg ryw chwe mis yn ôl, wnes i erioed ddychmygu y baswn i'n ffeindio fy hun yn fan hyn., gyda phosibiliadau dychrynllyd yn hofran drosto i. Beth sy'n achosi'r symptomau? MS? Tiwmor ar yr ymennydd? Wrth i mi feddwl am botensial y canlyniadau, teimlais fy nghalon yn rhuthro a dagrau yn hel yn fy llygaid. Wrth eu dal nôl cyrhaeddais am yr hyn oedd wedi fy sadio dros nifer o fisoedd, "Arglwydd, mae arna i ofn, a dw i angen ti."
Mewn byd ble mae "be os" yn ddiddiwedd a wastad yn newid, mae "beth sydd nawr" yn gymaint haws ffocysu ar ein hamgylchiadau. Dŷn ni'n gadael i'r adroddiad meddygol gwael, heconomi sy'n methu, y trais cynyddol ar y newyddion, i blannu hadau ofni a phoeni'n ein bywydau. Dyna sy'n beryglus am boendod. Mae e'n tyfu a chymryd lle gwerthfawr yn ein calonnau a'n meddyliau.
`Mae yna newyddion da hefyd. Mae yna rywbeth y gallwn ei wneud fydd, nid yn unig yn unig yn gorchfygu poeni, mae e'n cymryd ei le. Gallwn ddewis i gymryd ein llygaid oddi ar ein amgylchiadau anwadal, ac yn lle hynny, ffocysu ar yr un syth fyth yn newid. Dyma beth sy'n digwydd pan dŷn ni'n gweddïo. Yn yr eiliadau hynny pan dŷn ni'n dewis gweddi yn lle poeni, dŷn ni cael ein hunain ym mhresenoldeb ein Duw sofran, cariadus, doeth, a digyfnewid. Dŷn ni'n dod gyda'n mawl a'n hofnau. Mae e'n enwog am gyfnewid poeni gyda heddwch, ofn gyda thrystio, ac ansicrwydd gyda gobaith. Felly, beth yw'r boen sydd yn dy galon? Dewisa ei gaethiwo a dod ag e at Dduw mewn gweddi, heddiw.
Gweddïa: Ddyuw, dw i'n rhoi i ti______. A wnei di ddod gyda'th rym a gwneud dy waith yn _______? Dw i'n credu ynddo ti Dduw, dw i'n trystio dy ffyrdd, a dw i'n rhoi fy ngobaith ynot ti.
Divina Bruss, gwraig i un o'r staff a mam i bedwar o blant
Am y Cynllun hwn
Wyt ti fyth ytn teimlo fel dy fod wedi dy ddal mewn llyfr dewis dy antur dy hun gyda rhywun arall yn dewis? Mae mamau yn iawn. Mae ein dewisiadau'n bwysig - dros ben. Mae'r cynllun Beiblaidd hwn gan Life.Church yn cyd-fynd gyda negeseuon Craig Groeschel i rai o'r dewisiadau mwyaf all unrhyw un ei wneud. Falle nad ydyn ni'n gallu dewis ein hanturiaethau ein hunain bob tro, ond gallwn ddewis pwrpas, gweddi, ildiad, disgyblaeth, cariad, a phwysigrwydd.
More