Saboth - Byw Yn ôl Rhythm DuwSampl
Y SABOTH A DARPARIAETH DUW
MYFYRDOD
Byth ers chwarter cyntaf y flwyddyn 2020, mae pobl ledled y byd yn cofio'r holl sefyllfaoedd anodd sydd wedi'u hachosi gan y pandemig. Mae’r amseroedd hyn yn ein hatgoffa Gristnogion o’r amser a dreuliodd pobl Dduw, yr Israeliaid, yn yr anialwch, pan oedden nhw am fynd yn ôl i gaethwasiaeth yn yr Aifft oherwydd eu bod yn newynog: “Byddai'n well petai'r ARGLWYDD wedi gadael i ni farw yn yr Aifft! O leiaf roedd gynnon ni ddigon o gig a bwyd i'w fwyta yno. (Exodus 16, 3). Creodd Duw'r Saboth fel gweithred olaf ei greadigaeth, fel symbol o'i ras a'i ragluniaeth dros ei bobl.
Yn Exodus 20:8 mae Duw yn ein hatgoffa i gadw at y Saboth, dydd o orffwys i bawb, diwrnod sy'n dileu pob anghyfartaledd ym mhob rhan o fywyd, yn enwedig i'r rhai sy'n rhan o'r dosbarthiadau cymdeithasol is. Mae Duw yn mynegi ei gariad tuag atom ni ac yn trin ei holl greaduriaid yn gyfartal. Bydd pob un ohonom yn gallu mwynhau gorffwys duwiol ar y Saboth.
Yn yr anialwch, mae Duw yn bwydo ei bobl â math newydd o fwyd sy'n cyfieithu'n llythrennol i "Beth yw hwnna?" Roedd yn fwyd gyda nod cwestiwn, ac yn cyfieithu o'r Hebraeg fel "Mann-hou," manna. Gyda’r bwyd hwn paratôdd Duw'r Saboth, ac fe'i gwnaeth yn bosibl i'w bobl gael gofal a thorri'n rhydd o'u gorffennol yn yr Aifft.
Ar ôl Exodus 16:4, roedd y bobl yn derbyn dogn o fanna bob dydd fel darpariaeth ddigonol ar gyfer y dydd. Y ffocws yma yw i'r bobl ufuddhau i gyfarwyddiadau a symud ymlaen yn ddisgybledig. Dŷn ni (y bobl yn yr anialwch a Christnogion heddiw) yn derbyn yn ddyddiol trwy Air Duw ufudd-dod a disgyblaeth. Maen nhw’n rhoi sicrwydd o ras Duw i ni yn ein bywydau.
CWESTIYNAU I FYFYRIO ARNYN NHW
- Oes gennym ni "botiau llawn" y dylen ni eu llenwi gyda bwyd newydd o’r uchod?
- Dylai dibyniaeth feunyddiol ar Dduw fod yn realiti i ni Gristnogion, ac nid yw cyfarwyddyd a disgyblaeth bob amser yn rhan o'n ffordd o fyw. Ddylen ni ddarganfod yr elfennau hyn o'r newydd? Sut?
TESTUNAU GWEDDI
- Gweddïwn dros y Cristnogion sy’n cael eu herlid yn y byd hwn. Boed iddyn nhw dderbyn manna, y ddarpariaeth ddyddiol gan Dduw.
- Gweddïwn dros ffydd Cristnogion sydd â chefndir ymfudo, yn enwedig dros bobl ifanc y mae eu ffydd yn cael ei phrofi.
- Gweddïwn fod Duw yn codi pobl fel Moses (arweinwyr) eto yn ein cymunedau Cristnogol.
AWGRYM GWEDDI
Arglwydd, wnes di ofalu am dy bobl yn yr anialwch. Fe wnes di eu bwydo, eu hamddiffyn, a'u hannog. Diolch i ti am y gras wnes di ei gynnig i'r rhai wnes di eu rhyddhau o gaethiwed yn yr Aifft.
Diolch droson ni hefyd. Wnes di ein rhyddhau ni rhag byw mewn caethiwed pechod, a wnes di ein cynnwys yn dy deyrnas. Ti sy'n ein maethu â dy Air. Rwyt ti’n ein hamddiffyn ac yn ein hannog bob dydd.
Dŷn ni’n ymwrthod â mynd yn ôl i'n "Aifft" o'r gorffennol a throi tuag atat ti, Iesu. Helpa ni i fyw allan adegau o orffwys yn dy bresenoldeb, lle wnes di roi i ni'r holl nerth a hyfdra dŷn ni ei angen i wneud dy ewyllys. Amen.
Joseph Kabongo, Cyn-gadeirydd eglwysi Affrica yn Y Swistir, Y Swistir.
p>Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae Wythnos Weddi'r Cynghrair Efengylaidd (WOP) yn fenter a arsylwyd ledled y byd ond yn bennaf ledled Ewrop gyda deunydd yn cael ei ddarparu gan y Cynghrair Efengylaidd Ewropeaidd. Mae WOP 2022 yn digwydd o dan y thema "Saboth." Trwy gydol wyth diwrnod gwahoddir darllenwyr i ganolbwyntio ar un agwedd ar y Saboth: hunaniaeth, darpariaeth, gorffwys, tosturi, coffadwriaeth, llawenydd, haelioni, a gobaith. Gweddïwn y bydd y deunydd hwn yn eich helpu i (ail)ddarganfod bywyd yn ôl rhythm Duw!
More