Mae'r Beibl yn FywSampl
Mae'r Beibl yn Newid Popeth
Dychmyga fod popeth yn ddu ac yn anhrefn gwag nes bod Duw yn dweud "Dw i eisiau golau." Ar amrantiad, mae popeth yn newid. Mae'r golau yn goroesi'r tywyllwch, ac mae beth oedd ar un adeg yn anweledig i'w weld yn glir. Newidiodd popeth oherwydd geiriau Duw ... ond nid dyna'r diwedd.
Mae'r un Duw a greodd y bydysawd ag un anadl yn parhau i anadlu bywyd newydd i'r byd trwy nerth ei Air. Mae Gair Duw'n parhau i oroesi'r tywyllwch. Mae Gair Duw'n trawsnewid bywydau ac adnewyddu calonnau toredig. Mae Gair
Duw'n fyw a gweithredol oherwydd mae e'n fyw a gweithgar. Ac mae gennym ; fynediad diddiwedd i'w Air.
Po fwyaf dŷn ni'n astudio'r Beibl, po fwyaf dŷn ni'n darganfod fod Duw eisiau i bawb yn y byd brofi perthynas bersonol, fyw ac adferol gydag e.
Waeth pa dreialon neu galedi sy’n ein hwynebu, bydd Gair Duw'n dal i fynd allan a goroesi'r tywyllwch. Bydd ei eiriau'n parhau i drawsnewid pobl fel Ghana, Diya, pobl y Populuca, Samuel Ajayi Crowther, ac William Tyndale. Ac mae gan ei eiriau y pŵer i'th newid dithau.
Felly, oeda a meddwl am dystori. Sut mae Gair Duw wedi dy drawsnewid di? Ac ym mha ffordd y mae Duw, o bosib, yn dod â'r Ysgrythur yn fyw yn dy fywyd y funud hon?
Dathla beth mae Duw wedi gwneud dy fywyd hyd yn hyn. a myfyria ar yr hyn mae e'n ei wneud yn y byd o'th gwmpas.
Wrth symud ymlaen, dewisa gymryd rhan yn y stori y mae Duw yn ei hadrodd. Mae'n stori a ddechreuodd pan siaradodd y byd i fodolaeth, a bydd yn parhau tan y diwrnod y bydd Iesu'n dychwelyd - stori sy'n mynd y tu hwnt i hanes ac sy'n trawsnewid y byd yn barhaus.
Am y Cynllun hwn
Ers cyn dechrau amser mae Gair Duw wedi adnewyddu calonnau a meddyliau - a dydy Duw heb orffen eto. Yn y cynllun sbesial saith diwrnod hwn gad i ni ddathlu pŵer trawsnewidiol i fywyd yr Ysgrythur drwy gymryd golwg agosach ar sut mae Duw'n defnyddio'r Beibl i effeithio ar hanes a newid bywydau ledled y byd.
More