Mae'r Beibl yn FywSampl
![La Biblia está viva](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F27965%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Mae'r Beibl yn Trawsnewid Cenhedloedd
Y 1800au cynnar yw hi. Mae bachgen o Nigeria a'i deulu yn cael eu cipio o'u cartref a'u gorfodi i fynd ar long gaethwasiaeth o Portiwgal sydd ar ei ffordd i America. Ond cyn bod y llong yn gadael arfordir Affrica mae patrôl gwrth-gaethwasiaeth yn cynnal cyrch ac arestio'r masnachwyr. Mae'r bachgen a'i deulu'n cael eu rhyddhau a'u hanfon i Sierra Leone. Yma mae e'n darganfod pŵer y Beibl.
Ar ôl dod yn Gristion dechreuodd Samuel Ajayi Crowther ddysgu nifer o ieithoedd a mynd ar ymgyrchoedd cenhadol i wledydd gerllaw Sierra Leone. Ond yr holl amser hwn, roedd yn astudio’r Beibl yn Saesneg oherwydd nad oedd yn bodoli yn Yoruba - ei iaith frodorol yn Nigeria.
Roedd hyn yn golygu na allai pobl oedd yn byw yn Nigeria ac yn methu siarad Saesneg yn gallu darllen y Beibl droson nhw eu hunain. Felly helpodd Ajayl i greu system ramadeg ysgrifenedig ar gyfer Yoruba ac yna gyfieithu'r Beibl i'r iaith honno.
Unwaith iddo orffen y Beibl mewn Yoruba parhaodd i gyfieithu'r Ysgrythur i ieithoedd brodorol eraill Nigeria fel bod mwy o bobol yn gallu darganfod y newid mewn bywyd roedd e wedi'i brofi.
Yn ddiweddarach etholwyd Crowther yn "Esgob Niger" gan yr Eglwys Anglicanaidd gan ei wneud yr esgob Anglicanaidd du cyntaf. A heddiw, Eglwys Anglicanaidd Nigeria yw'r ail dalaith Anglicanaidd fwyaf gyda dros 18 miliwn o aelodau wedi'u bedyddio.Mae'r un Duw weithiodd drwy Crowther eisiau gweithio drwyddo ti i effeithio ar y byd trwy ei Air. Mae yna bobl yn aros i gael eu trawsnewid gan y Beibl, a rwyt ti mewn sefyllfa perffaith i'w cyrraedd.
Felly heddiw, gofynna di i Dduw ddatgelu’r rôl y gelli di ei chwarae n y stori y mae’n ei hadrodd, a gwylia arno'n gwneud mwy drwy dy fywyd na’r cyfan y gallwch di ei ofyn, ei feddwl, neu ei ddychmygu.
Am y Cynllun hwn
![La Biblia está viva](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F27965%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Ers cyn dechrau amser mae Gair Duw wedi adnewyddu calonnau a meddyliau - a dydy Duw heb orffen eto. Yn y cynllun sbesial saith diwrnod hwn gad i ni ddathlu pŵer trawsnewidiol i fywyd yr Ysgrythur drwy gymryd golwg agosach ar sut mae Duw'n defnyddio'r Beibl i effeithio ar hanes a newid bywydau ledled y byd.
More
Cynlluniau Tebyg
![Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44485%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial
![Hadau: Beth a Pham](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44130%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Hadau: Beth a Pham
![Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43442%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd
![Coda a Dos Ati](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43961%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Coda a Dos Ati
![Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F50414%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill
![Dwyt ti Heb Orffen Eto](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40720%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dwyt ti Heb Orffen Eto
![Ymarfer y Ffordd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F42239%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymarfer y Ffordd
![Rhoi iddo e dy Bryder](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F48882%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Rhoi iddo e dy Bryder
![Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44796%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist
![5 Gweddi o Ostyngeiddrwydd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40321%2F320x180.jpg&w=640&q=75)