Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ffordd y DeyrnasSampl

The Way of the Kingdom

DYDD 4 O 5

Heddwch mewn Erledigaeth, Diffyg Ofn mewn Dioddefaint

Bydd pob crediniwr yn dod ar draws erledigaeth a gwrthwynebiad o ryw fath wrth iddyn nhw weithredu ar alwad Duw. Dydy hyn yn ddim byd newydd. Mae erledigaeth Gristnogol wedi bodoli ers dechreuad yr Eglwys. Mae’r hyn dŷn ni’n ei brofi yn y byd ar hyn o bryd yn arwydd i ni o Deyrnas Dduw sy’n datblygu. Does dim ohono yn syndod i Dduw. Disgwyliai Iesu hynny drosto'i hun, a gwyddai y byddem ninnau hefyd yn wynebu trallod a gorthrymder yn y byd; felly fe wnaeth e baratoi at yr adegau hynny trwy dywallt allan ei Ysbryd.

Yng ngoleuni hyn, dydyn ni ddim yn gofyn a ddaw dioddefaint ac erledigaeth ai peidio. Bydd yn dod. Y cwestiwn dŷn ni am ofyn yw, sut yr ydym i ymateb. Ydyn ni'n cuddio mewn hofel, yn claddu ein pennau yn y tywod neu'n ymddieithrio o fywyd mewn rhyw ffordd? Ydyn ni'n dod yn amddiffynnol, yn cynllwynio dial ac yn byw gyda'n meddylfryd ni neu nhw? Na. Nid dyma ffordd Teyrnas Dduw.

Yr ydym ni yng Nghrist, ac y mae Crist, Tywysog Tangnefedd, ynom trwy ddawn yr Ysbryd. Mae tangnefedd Crist yn ein galluogi i rodio mewn awdurdod a roddwyd gan Dduw i aros yn sefyll, yn ansymudol a diwyro, wedi ein seilio a’n gwreiddio yn Iesu, tra bod y byd yn ysgwyd a chrynu. Dŷn ni’n gallu gwneud hyn oherwydd ein bod yn gwybod bod ein tragwyddoldeb yn ddiogel, a'n hawdurdod yn sicr. Mae Duw o'n hochr ni. Y mae tangnefedd Crist yn fwy nerthol na'r erledigaeth o'n hamgylch.

`

Fel dilynwyr Crist, dŷn ni i roi ein bywydau i lawr o’n gwirfodd er mwyn y Deyrnas. Rhaid inni ddod i'r man lle dŷn ni’n fodlon talu'r pris. Gall angerdd am hunan-gadwedigaeth ysgogi pobl i wneud penderfyniadau sy'n peryglu eu gwerthoedd moesol a'u huniondeb personol. Dydyn nhw ddim yn gwneud yr hyn y maen nhw’n gwybod sy'n iawn, neu maen nhw’n teimlo bod rhaid iddyn nhw wneud yr hyn na fydden nhw byth yn ei wneud o dan amgylchiadau arferol.

Maw pechod wedi’i faddau. Mae marwolaeth wedi ei orchfygu. Mae Satan wedi’i daflu i lawr. Mae'r Ysbryd Glân wedi ei dywallt. Mae Teyrnas Dduw yn symud ymlaen. Mae Iesu wedi sicrhau buddugoliaeth, wedi addo bywyd tragwyddol, wedi rhoi ei heddwch ac wedi cyhoeddi'r alwad a'r comisiwn. A allwn ni fod yn ddim byd ond yn ddi-ofn, hyd yn oed yn wyneb dioddefaint ac erledigaeth?





Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

The Way of the Kingdom

Mae Duw yn deffro ei Eglwys, ac mae angen inni weld y darlun mawr. Pan fydd pethau'n mynd yn anodd, byddwn yn cael ein temtio i roi'r gorau iddi. Fodd bynnag, nid yw'n bryd rhoi'r gorau iddi. Ymuna â ni wrth i ni ddysgu sut i ddarllen yr amseroedd rydyn ni ynddo, yn ogystal ag ennill strategaethau ar sut i sefyll a hyrwyddo Teyrnas Dduw.

More

Hoffem ddiolch i Baker Publishing am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://bakerpublishinggroup.com/books/the-way-of-the-kingdom/395661