Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ffordd y DeyrnasSampl

The Way of the Kingdom

DYDD 1 O 5

Wyt ti wedi dy siomi?

Roedd Ioan Fedyddiwr wedi treulio ei fywyd fel oedolyn yn cyhoeddi dyfodiad y Meseia. Roedd Ioan yn gefnder i Iesu, sy’n golygu eu bod nhw’n gwybod am wyrthiau genedigaeth ei gilydd. Nawr, wedi'u lansio'n llawn i'w gweinidogaethau, mae Ioan ac Iesu wedi bod yn cyhoeddi'n hyderus bod y Deyrnas wrth law. Mae’n ymddangos eu bod ar yr un dudalen.

Yn annisgwyl, fodd bynnag, anfonodd Ioan ei ddisgyblion i ofyn i Iesu ai fe oedd y Meseia neu a ddylen nhw chwilio am un arall. Oni wyddai Ioan? Roedd yn ymddangos yn sicr fel pe bai'n gwybod. Nawr mae'n ymddangos yn ddryslyd.

Roedd Ioan yn disgwyl chwyldroadwr a fyddai'n dymchwel systemau gwleidyddol, crefyddol a diwylliannol ei ddydd. Roedd yn credu y byddai'r Meseia yn arwain gwrthryfel cyfiawn a oedd yn cael ei gefnogi gan Dduw. Eto ble oedd Ioan ar y pryd? Cafodd ei rwymo mewn gefynnau yn y carchar ac yn dioddef trais gan yr Herod anghyfiawn ac eilunaddolgar. Beth oedd Iesu yn ei wneud yn ei gylch? Dim o gwbl.

Os mai Iesu oedd yr un oedd yn dod, oni fyddai e’n sefydlu ei Deyrnas, yn gweithredu i ddymchwel y gormeswyr cymdeithasegol politicaidd, yn galw am ddiwygiad ymhlith yr elît crefyddol ac yn sefydlu ei hun fel y Brenin cyfiawn, a benodwyd yn ddwyfol? Oni fyddai e’n ymyrryd yn sefyllfa Ioan fel carcharor, gan y byddai e’n dwyn ei farn danllyd ar bob anwiredd? Yn ôl disgwyliadau Ioan, wrth gwrs y byddai.

Rhybuddiodd Iesu Ioan i beidio â chael ei siomi. Byddai'n rhaid i Ioan wrthsefyll temtasiwn a dewis credu hyd yn oed yn wyneb sarhad, anghyfiawnder ac anaf. I loan, fyddai yna ddim gwaredigaeth. Roedd codi cywilydd ei ddisgwyliadau yn ei adael yn ddryslyd, yn amheus ac yn cael ei demtio i beidio credu. Yn y profiad hwnnw a'r amgylchiadau hynny, galwodd Iesu ef i ffydd.

Pa mor aml ydyn ni, pan fydd gennym ni ddisgwyliadau heb eu bodloni neu pan fyddwn ni’n dechrau teimlo ymyl llym gwrthwynebiad ac anghyfiawnder, yn cael ein tramgwyddo gyda Duw? Dechreuwn amau ei gariad, ei ddaioni, ei ffyddlondeb, ei bresenoldeb a hyd yn oed ei realiti. Faint sydd wedi troi yn ôl a heb ddilyn Iesu mwyach oherwydd yr union beth hwn? Fel hyn y mae'r gelyn yn lladd symudiad yr Ysbryd.

Yr ydym ar drothwy symudiad mawr arall gan Dduw. Os ydyn ni eisiau cerdded yn ffordd y Deyrnas ac ymuno â Duw mewn symudiad o’r Ysbryd yn ein cenhedlaeth, rhaid i ni beidio bod yn agored i siomedigaeth.





Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

The Way of the Kingdom

Mae Duw yn deffro ei Eglwys, ac mae angen inni weld y darlun mawr. Pan fydd pethau'n mynd yn anodd, byddwn yn cael ein temtio i roi'r gorau iddi. Fodd bynnag, nid yw'n bryd rhoi'r gorau iddi. Ymuna â ni wrth i ni ddysgu sut i ddarllen yr amseroedd rydyn ni ynddo, yn ogystal ag ennill strategaethau ar sut i sefyll a hyrwyddo Teyrnas Dduw.

More

Hoffem ddiolch i Baker Publishing am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://bakerpublishinggroup.com/books/the-way-of-the-kingdom/395661