Cynllun Duw ar gyfer RhywSampl
RHYW A'R DRINDOD
Roedd gan Charles Williams, ffrind agos i C.S.Lewis, ac oedd yn aelod o'r grŵp enwog hwnnw, o bobl ddeallus, yr 'Inklings', ddeall dwfn o gynllun Duw ar gyfer rhywioldeb dynol. Wrth sgwennu am bortread Dante o gariad rhamantus yn The Divine Comedy, mae Williams yn dweud bod gweledigaeth y bardd yn darlunio tri pheth.
Yn gyntaf, mae'n ddarlun o'r Drindod: Un Duw yn bodoli mewn Tri Pherson. Yn ail, mae atgof o'r Ymgnawdoliad: dynoliaeth a duwioldeb wedi'u huno'n berffaith ym mherson Iesu Grist. Yn drydydd, mae'n symbol o rhywbeth mae Williams yn hoffi ei alw'n "ddirgelwch hollgynhwysol": y mynegiant o gymundeb fi ynot ti a ti ynof fi.
Mynegodd Iesu hyn yn ei weddi fawr offeiriadol: "Dw i'n gweddïo y byddan nhw i gyd yn un, Dad, yn union fel rwyt ti a fi yn un." (Ioan, pennod 17, adnod 21).
Dyma'n union yw y delwedd o Dduw mewn dyn. Dydy'r Duw dŷn ni'n ei addoli ddim yn byw wedi'i ynysu. Yn hytrach, mae wedi bod yn y gymuned yn dragwyddol. Mae tri Person y Drindod - Tad, Mab, ac Ysbryd Glân - yn rhyngweithio â'i gilydd mewn cymundeb perffaith. Mae'r gwirionedd hynny yn ein helpu i ddeall yn well beth oedd gan yr Apostol Paul mewn golwg pan ddwedodd, "Cariad ydy Duw" (1 Ioan, pennod 4, adnod 8).
Hefyd, dyna pam wnaeth duw ddweud, “Dydy e ddim yn beth da i'r dyn fod ar ei ben ei hun" (Genesis, pennod 2, adnod 18). Wedi'r cyfan, sut y gallai un dyn ar ben ei hun, adlewyrchu ddarlun llawn o Dduw sydd â natur o gymundeb? Ddaeth hynny ddim i fod nes i Adda weld Efa yn symud tuag ato yng ngodidowgrwydd lawn ei harddwch benywaidd a dweud, "O'r diwedd! Un sydd yr un fath â fi! Asgwrn o'm hesgyrn, a chnawd o'm cnawd" (Genesis, pennod 2, adnod 23).
Mae hyn oll yn arwain i'r casgliad anochel ynglŷn â'n rhywioldeb. Mewn ffordd dwys a hyfryd, mae ein bywydau rhywiol i fod i adlewyrchu realaeth a hyfrydwch y Drindod yn ein perthynas briodasol.
Fel mae'r diwinydd, George Weigel, yn esbonio, pan fyddwn yn edrych ar gyfarwyddyd Duw ar gyfer ein rhywioldeb yn y dull hwn, " mae'r cwestiwn moesol cyntaf yn symud o 'Beth dw i ddim i fod i wneud?"' i Sut ydw i fod i fyw bywyd o gariad rhywiol sy'n cydymffurfio i fy urddas fel person dynol?' Felly, mae rhyw, o'i ddeall a'i ymarfer, mewn synnwyr gwirioneddol yn sylfaenol i bwrpas dynoliaeth, a'i dynged yng ngwyrth creadigaeth Duw.
Am fwy o help, dos i brif wefan Pure Intimacy neu Focus on the Family. Gelli hefyd ffonio'r Adran Gynghori gweinidogaethol am ymgynghoriad rhad ac am ddim ar 855-771-HELP (4357).
George Weigel, The Truth of Catholicism: Ten Controversies Explored (New York: Cliff Street Books, 2001), 104-105.

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae trysoryddion y Trysorlys yn dysgu i adnabod arian ffug drwy adnabod y patrymau cywrain mewn arian go iawn. Yn yr un modd, mae deall pechod toredig rhyw yn dechrau gyda chynllun Duw ar gyfer agosatrwydd rhywiol dilys. Mae sancteiddrwydd rhywioldeb dynol yn rhagori ar y weithred gorfforol. Mae'n adlewyrchu sancteiddrwydd Duw, ei berthynas o fewn y Drindod, a ei awydd i gyfuno dy gorff, enaid, a meddwl i ddelwedd o Grist.
More
Hoffem ddiolch i Focus on the Family am darparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://family.custhelp.com/app/home