Cynllun Duw ar gyfer RhywSampl
RHYW A MOESOLDEB
Wrth sôn am ryw, dŷn ni'n mwynhau rhodd Duw o pleser cnawdol i'w lawnder pan mae'n cael ei brofi o fewn y cyd-destun priodasol.
Er bod y syniad Cristnogol o foesoldeb rhywiol yn cael ei feirniadu fel rhywbeth "gormesol". mae'n fater o ymatal a sianelu pŵer rhyw yw wneud mor effeithiol â sy'n bosibl, i'n bywydau.
Wyt ti'n gwybod beth yw ystyr y gair "afradlonedd"? Mae'n cyfeirio at wastraffu a cholli egni positif o ganlyniad i gamddefnydd hylif. Er enghraifft, pan mae dŵr yn cael ei orfodi drwy sianel gul , mae'n cynhyrchu grym anhygoel. Ond os yw'n byrstio allan o'r cyfyngiad hynny, mae'n llifo dros y tir, ac mae'r grym wedi mynd.
Dyna yw afradlonedd, ac mae i'r gair berthnasedd neilltuol mewn cysylltiad â moesoldeb rhywiol. Dyma oedd gan awdur y Diarhebion mewn golwg pan sgwennodd yr adnodau canlynol:
"Yfed ddŵr o dy ffynnon dy hun, ei dŵr ffres hi, a dim un arall. Fyddet ti eisiau i ddŵr dy ffynnon di lifo allan i'r strydoedd?
Na, cadw hi i ti dy hun, paid gadael i neb arall ei chael.
Gad i dy ffynnon gael ei bendithio! Mwynha dy hun gyda'r wraig briodaist ti pan oeddet ti'n ifanc
dy ewig hyfryd, dy afr dlos. Gad i'w bronnau roi boddhad i ti,
i ti ymgolli yn ei chariad bob amser.
Fy mab, pam gwirioni ar ferch anfoesol?
(Diarhebion, pennod 5, adnodau 15 i 20).
Heb os, nid yw rhain yn eiriau rhywun sydd yn "nerfus" am ryw, ac yn "ofni'r" byd, neu'n gwrthod harddwch y greadigaeth. Dydy'r fath farddoniaeth ddim wedi llifo o feddwl "gormesol" sy'n osgoi "pleserau bywyd", fel byddai rhai beirniaid ar foesoldeb rhywiol yn ei ddymuno.
Yn hollol i'r gwrthwyneb, mae'n datgan gwerthfawrogiad ddofn ac ecstatig ar gyfer egni a bywiogrwydd rhywioldeb sydd dan reolaeth. Dyna ysgogodd y rheiny sy'n credu yn Nuw i gadw ei orchmynion a datgan, "Rwyt wedi dangos y ffordd i fywyd i mi; bydd bod gyda ti yn fy llenwi â llawenydd a hyfrydwch diddiwedd bob amser" (Salm 16, adnod 11).
Dyma un o'r cyfrinachau mwyaf mewn "bywyd crefyddol pybyr" : mae canlyniad yr ymchwil gorau yn awgrymu mai'r pobl sydd wedi'i bodloni fwyaf gan ryw mewn cymdeithas fodern yw, nid y rhai sydd yn anturiol, ond cyplau priod ffyddlon monogamyddol.
Dyma felly holl ystyr moesoldeb rhywiol Cristnogol. Nid set o reolau caeth sydd wedi'u cynllunio i'n rhwystro rhag cael hwyl. Dyma yw'r allwedd ar gyfer cyflawniad lwyr ein rhywioldeb. Dyma'r drws i fywyd digonol a chyflawn o fewn priodas a pherthynas rhwng dyn a dynes.
Am fwy o help, dos i brif wefan Pure Intimacy neu Focus on the Family. Gelli hefyd ffonio'r Adran Gynghori gweinidogaethol am ymgynghoriad rhad ac am ddim ar 855-771-HELP (4357).

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae trysoryddion y Trysorlys yn dysgu i adnabod arian ffug drwy adnabod y patrymau cywrain mewn arian go iawn. Yn yr un modd, mae deall pechod toredig rhyw yn dechrau gyda chynllun Duw ar gyfer agosatrwydd rhywiol dilys. Mae sancteiddrwydd rhywioldeb dynol yn rhagori ar y weithred gorfforol. Mae'n adlewyrchu sancteiddrwydd Duw, ei berthynas o fewn y Drindod, a ei awydd i gyfuno dy gorff, enaid, a meddwl i ddelwedd o Grist.
More
Hoffem ddiolch i Focus on the Family am darparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://family.custhelp.com/app/home