Llwybr Duw i LwyddiantSampl
Does neb yn mynd ati i fethu. Ac er na allwn fynd yn ôl a dadwneud camgymeriadau ein blynyddoedd blaenorol, mae gennym yr opsiwn o ddod yn llwyddiannus o hyn ymlaen. Gallwn naill ai ddechrau neu barhau ar y daith o gyflawni tynged Duw i ni.
Mae Duw yn rhoi’r gyfrinach i ni fyw bywyd o lwyddiant yn Salm 25:14. Gwybod ei ffafr a'i fendithion yw gwybod cyfamod Duw. Mae ei gyfamod wedi ei glymu'n bendant wrth ei orchudd. Gosoda dy hun o dan reolaeth gyfamod Duw mewn bywyd a byddi’n profi llwyddiant ysbrydol.
Ond mae’r adnod hon yn cynnwys amod: dim ond trwy ei ofni y byddwch chi’n dod i adnabod cyfamod Duw. Mae yna senario achos ac effaith ar gyfer cyflawni llwyddiant ysbrydol. Mae'n ymwneud â'r hyn rwyt ti'n ei wneud mewn perthynas â'r anrhydedd a'r parch rwyt ti'n eu dangos tuag at Dduw a'i Air. Bydd hyn yn effeithio'n uniongyrchol ar lefel dy lwyddiant ysbrydol. Alli di ddim dirmygu Duw yn dy benderfyniadau a disgwyl cyflawni unrhyw lefel o lwyddiant yn y deyrnas. Mae llwyddiant yn dechrau gyda pharch ac ufudd-dod.
Pa rannau o’th fywyd dwyt ti ddim yn dangos ofn Duw yn iawn?
Beth mae’n ei olygu i gael cyfamod â Duw?
Hyderwn fod y cynllun hwn wedi dy annog. Dysga fwy am Tony Evans a Kingdom Men Risingyma.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae pawb yn chwilio am lwyddiant, ond does fawr ddim yn dod o hyd iddo oherwydd mae’r maen nhw’n ei ddilyn yw dealltwriaeth ffug o'r hyn y mae'n ei olygu i fyw bywyd llwyddiannus. I ddod o hyd i lwyddiant go iawn mae angen i ti osod dy olygon ar ddiffiniad Duw o'r hyn y mae'n ei olygu. Gad i'r awdur poblogaidd Tony Evans ddangos iti’r llwybr i lwyddiant y deyrnas go iawn, a sut y gelli di ddod o hyd iddo.
More