Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Llwybr Duw i LwyddiantSampl

God’s Path to Success

DYDD 1 O 3

Nid yw llawer o bobl yn rhagweld llwyddiant fel y mae go iawn. Maen nhw'n chwilio am dân gwyllt, hudoliaeth ac un stadiwm llawn o gymeradwyaeth. Mae ein diwydiant adloniant a safleoedd cyfryngau cymdeithasol, ynghyd â chwaraeon proffesiynol, wedi creu golwg afrealistig o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn berson llwyddiannus. Yn anffodus, mae'r disgwyliad afreal hwn yn aml yn achosi i ni golli allan ar ddathlu llwyddiant go iawn, pan dŷn ni’n ei gael. Neu mae'n achosi i ni golli allan ar fwynhau'r llwyddiant dŷn ni wedi'i gael. O ganlyniad i beidio â'i gydnabod, gallwn ffeindio’n hunain ar drywydd y peth mawr nesaf. Ac yna'r nesaf a'r nesaf. Cawn ein hunain yn troelli ein holwynion yn ras llygod mawidrefn bywyd.

Gan ein bod ni'n byw mewn byd drylliedig, wedi'i lygru gan bechod a'i effeithiau, gall llawer o gerrig milltir llwyddiant ein bywydau ymddangos yn chwerwfelys yng nghwrs amser. Heb ddealltwriaeth glir o lwyddiant y deyrnas, fyddwnni ddim yn gwybod sut i fuddsoddi ein hamser, ein doniau a'n trysorau. Bydd beth bynnag rwyt ti'n ei hau yn penderfynu beth rwyt t'n ei fedi. Ond mae Satan yn aml yn ein cael ni i hau i'r pethau anghywir oherwydd dŷn ni'n camddeall sut beth yw llwyddiant dilys.

Beth yw'r tri pheth neu weledigaeth orau yr wyt ti wedi ‘u hau iddynt dros y blynyddoedd diwethaf?

Pa ganlyniadau maen nhw wedi’u rhoi, ac ydyn nhw’n ffitio i mewn i agenda teyrnas Dduw?

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

God’s Path to Success

Mae pawb yn chwilio am lwyddiant, ond does fawr ddim yn dod o hyd iddo oherwydd mae’r maen nhw’n ei ddilyn yw dealltwriaeth ffug o'r hyn y mae'n ei olygu i fyw bywyd llwyddiannus. I ddod o hyd i lwyddiant go iawn mae angen i ti osod dy olygon ar ddiffiniad Duw o'r hyn y mae'n ei olygu. Gad i'r awdur poblogaidd Tony Evans ddangos iti’r llwybr i lwyddiant y deyrnas go iawn, a sut y gelli di ddod o hyd iddo.

More

Hoffem ddiolch i The Urban Alternative (Tony Evans) am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://tonyevans.org/