Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gweddi'r ArglwyddSampl

The Lord's Prayer

DYDD 2 O 8

Braint

Ein Tad sydd yn y nefoedd

Y gyfrinach i lawer o bethau - falle popeth - mewn bywyd yw cydbwysedd; dal dau neu fwy o bethau mewn tensiwn. Er enghraifft, bydd y gwneuthurwr craff am greu cynnyrch sy'n cyfateb rhwng y pris cywir a'r ansawdd cywir; bydd rhiant doeth eisiau cydbwyso cariad a disgyblaeth, ac ati. Yn gryno, mae Gweddi’r Arglwydd yn gwneud hyn gyda’r geiriau bach hynny Ein Tad sydd yn y nefoedd.

Yn gyntaf, cawn ein hatgoffa yma fod Duw yn Dad. Nawr dyma mae angen i mi ddweud ar unwaith, os, fel cymaint o bobl heddiw, mae dy brofiad o dad mor negyddol fel bod yr union air yn codi dy bwysedd gwaed, falle y bydd angen i ti wneud rhywfaint o waith. Falle y bydd yn rhaid iti atgoffa dy hun yn gyson ac yn gadarn mai Duw yw’r tad delfrydol nad oeddet ti erioed yn ei adnabod, neu hyd yn oed feddwl amdano fel ‘rhiant perffaith’; rhywun sy'n poeni'n gariadus ac yn ddoeth dy fod di'n tyfu i fod yn bwy rwyt ti i fod. Ni ddylai problemau gyda’r gair tad danseilio’r gwirionedd rhyfeddol y gallwn adnabod Duw fel rhiant cariadus. Gallwn gael gwared ar unrhyw syniadau am Dduw fel rhyw fath o brif gyfrifiadur cyfrifo oer, nefol, neu daflu unrhyw feddyliau ohono fel Prif Swyddog Gweithredol y bydysawd. Gall gweddi, meddai Iesu, gynnwys perthynas deuluol â Duw. Nawr mae’r goblygiad yma; er mwyn cael y berthynas werthfawr honno, mae angen inni roi ein ffydd yn Iesu a, thrwy wneud hynny, ddod yn frodyr a chwiorydd iddo. Mae yna resymeg hardd yma: mae rhoi dy ffydd yng Nghrist yn arwain at gael dy fabwysiadu i deulu Duw ac felly, trwy ddiffiniad, bod mewn perthynas mab neu ferch â Duw. Dŷn ni'n dod yn 'gysylltiedig' â set newydd o berthnasoedd yn y nefoedd ac ar y ddaear â chredinwyr eraill.

Caiff y gwirionedd rhyfeddol hwn ei gydbwyso gan yr atgof bod Duw yn y nefoedd. Mae'n holl bwerus, yn gwbl sanctaidd ac yn eithaf sicr o fod tu hwnt i'n dealltwriaeth. Mae'n deall popeth, yn gwybod popeth, wedi creu popeth ac yn cynnal popeth. Mae angen hyn arnom. Mae'n hawdd iawn creu Duw llai, maint poced ar lun a delw ein hunain, ond dyma Dduw sydd yn y nefoedd: yn fwy ac yn gymaint mwy na’r hyn y gallwn ei ddychmygu.

Dyma, felly, y cydbwysedd perffaith; dylem gael rhywbeth y gallem ei alw yn barchedig ofn neu yn ddefosiwn wrth eich bodd - galwch ef yr hyn a fynni - ond hân ddal gafael y ddau wirionedd rhyfeddol hyn. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod gan lawer o gredinwyr, falle pob un ohonom, fywyd gweddi sy'n aml ddim mewn cydbwysedd â gweddill ein bywyd. Felly gallwn esgeuluso pŵer cosmig Duw a’i drin fel rhywbeth sydd ddim mwy na rhyw fath o ffrind cyfforddus i fyny yna nad oes ots ganddo o gwbl am yr hyn dŷn ni’n wneud. Neu fel arall gallwn esgeuluso cariad tadol Duw tuag atom ac edrych arno fel rhyw fath o arglwydd pell a datgysylltiedig y bydysawd. Yma mae Iesu’n dysgu bod yr hyn sydd gennym ni yn fraint ryfeddol: os ydyn ni wedi rhoi ein ffydd yng Nghrist gallwn ni adnabod Duw’r nefoedd yn ei holl allu a’i ogoniant fel rhiant cariadus, pryderus, perffaith. Anhygoel!

Wrth inni ddefnyddio’r weddi hon, gad inni oedi gyda’r geiriau cyntaf hynny Ein Tad sydd yn y nefoedd; gad i ni aros mewn balans.



Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

The Lord's Prayer

Ymunwch â J.John ar astudiaeth wyth diwrnod ar Weddi’r Arglwydd, y ddysgeidiaeth hynod ddwys a chymwynasgar honno a roddwyd gan Iesu ar sut y dylem weddïo.

More

Hoffem ddiolch i J.JOHN am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://canonjjohn.com