Gweddi'r ArglwyddSampl
Rhagarweiniadau
Dyma sut dylech chi weddïo: . . .
Dychmyga dy fod yn bianydd neu'n gitarydd yn cael trafferth dysgu darn o gerddoriaeth sy'n ymddangos fel pe bai'n gwneud gofynion amhosib ar dy dechneg. Nawr dychmyga fod y cyfansoddwr yn ymddangos yn sydyn ac yn sefyll wrth dy ymyl. Mae e’n dweud yn dyner, "Dyma sut rwyt ti'n rhoi dy ddwylo ar y pwynt hwn . . . “dyna sut mae chwarae'r rhan honno," a dangosir i ti yn union ble a phryd i roi dy fysedd . Pa mor ddiolchgar fyddet ti am y fath hyfforddiant? Os nad cerddoriaeth yw dy beth di, yna dychmyga rywbeth tebyg mewn chwaraeon, dringo creigiau, siarad cyhoeddus, neu hyd yn oed yrru car. Canllawiau sy'n seiliedig ar wybodaeth gyflawn, awdurdod cyflawn ac amynedd diderfyn.
Yma yng Ngweddi’r Arglwydd mae gynnon ni mewn tua 70 gair - yn agos at hyd y trydariad presennol o 280 o nodau - arweiniad gan Iesu ei hun ar sut rydyn ni’n siarad â Duw. Dyma ddysgeidiaeth am y pwnc pwysicaf yn y byd, gan y dyn a wyddai fwyaf am dano. Dyna pam mae Gweddi’r Arglwydd yn werth ei chymryd o ddifrif.
Ac mae gweddi yn bwysig! I lawer o bobl mae gweddïo braidd yn debyg i rif y gwasanaethau brys ar eu ffôn; pan mewn cyfyngder neu anhawster maen nhw’n galw ar Dduw. Wel, yn ei ras mae Duw yn ein helpu ni o dan y fath amgylchiadau ond nid dyna'r unig beth y mae gweddi ar ei gyfer. Fel y gwelwn yn y cwrs hwn, mae gweddi yn ein helpu i roi ein hunain mewn perthynas iawn â Duw ac wrth wneud hynny yn gosod ni a’n problemau mewn persbectif. Mae'n debyg ein bod ni i gyd wedi cael y profiad o adnabod rhywun ers peth amser, efallai cydweithiwr neu gymydog, ond dim ond teimlo ein bod ni'n eu hadnabod yn iawn ar ôl i ni gael sgwrs dda. Fel yna mae gweddi: mae'n dod â ni'n agos at Dduw, mae'n ein huniaethu ni ag ef fel ein bod ni'n ymwneud â'i ddibenion ac mae'n gwneud ei flaenoriaethau yn eiddo i ni.
Er bod llawer o bobl yn adrodd Gweddi’r Arglwydd air am air, nid wyf yn credu ei fod wedi’i fwriadu i’w ddefnyddio felly. Yn hytrach, rwy’n ei gweld fel gweddi batrwm, fframwaith neu dempled ar gyfer sut yr ydym i weddïo. Falle mai'r ffordd orau i feddwl amdano yw amlinelliad; cyfres strwythuredig o benawdau i’n harwain wrth inni siarad â Duw.
Mae gweddi effeithiol yn dyfnhau ein perthynas â Duw. Mae'n adeiladu rhwymau gyda Duw a fydd yn para. Mae’n gosod sylfeini yn y golau y gall fod ei angen arnom pan mae’n dywyll. Ni allaf or-bwysleisio pwysigrwydd gweddi. Os wyt am gael archwiliad ysbrydol, dim ond un prawf sydd ei angen: gofyn i ti dy hun, "Pa mor dda yw fy mywyd gweddi?" O ran yr hyn a wnawn a'r hyn ydym, gweddi yw'r ffactor cyfyngu mawr; nid oes yr un Cristion yn cyflawni mwy nag y mae eu bywyd gweddi yn ei ganiatáu.
Am y Cynllun hwn
Ymunwch â J.John ar astudiaeth wyth diwrnod ar Weddi’r Arglwydd, y ddysgeidiaeth hynod ddwys a chymwynasgar honno a roddwyd gan Iesu ar sut y dylem weddïo.
More