Mae credu Duw yn beth da beth bynnag sy'n bodSampl
Dydy Duw heb orffen.
Dydy Duw ddim yn farw a dydy e heb orffen! Falle fod dy fywyd yn edrych neu deimlo fel darlun anghyflawn - llanast llwyr gyda darnau ar goll.
Mae duw eisiau i ti wybod, er nad wyt yn ei weld, mae e'n dal i weithio. Mae e'n dal i wneud gwaith creadigol a gwych yn dy fywyd a bywyd y rhai rwyt yn ei caru. Er nad wyt yn gweld y darlun gorffenedig, dydy e ddim yn golygu nad yw'n mynd i fod yn gampwaith. Mae Philipiaid, pennod1, adnod 6 yn dweud wrthon ni i fod yn hyderus y bydd yr un ddechreuodd y gwaith yn ei orffen. Felly, bydd yn sicr: Mae Duw dal i weithio'n galed yn dy fywyd.
Gall neb, na dim, stopio ffafr Duw yn dy fywyd! Hyd yn oed os wyt yn teimlo fod y darlun yn lanast llwyr, gall Duw ddefnyddio'r llanast hwnnw i fendithio pobl yn dy fyd.
Mae mwy ar dy gyfer - mwy o ffafr, mwy o fendith, a mwy o bethau da!
Meddylia amdano fe: Sut mae gwybod fod gan Dduw waith anorffenedig yn dy fywyd yn rhoi gobaith i ti?
GWEDDÏA: Diolch Dduw am ddechrau gwaith da ynof fi ac addo i'w gwblhau. Mae dy ffafr yn llifo'n fy mywyd a gweddïaf y byddi di'n fy helpu i adnabod pan mae'n llifo drwy fy mywyd i helpu eraill. Rho gyfle i mi yr wythnos hon i annog rhywun ar eu taith. Yn enw Iesu. Amen.
Am y Cynllun hwn
Mae yna rai negeseuon heddiw, tu allan a thu mewn i'r eglwys, sydd wedi llygru gwir neges ffafr Duw. Y gwir ydy does dim rheidrwydd ar Dduw i ddarparu pethau da ar ein gyfer - ond dyna mae e ei eisiau! Gall y pum niwrnod nesaf dy helpu i gymryd golwg o'r newydd drwy lygaid sy'n anwybyddu'r niwl dyddiol gan weld caredigrwydd diamheuol ac eithafol Duw.
More