Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mae credu Duw yn beth da beth bynnag sy'n bodSampl

Believing God Is Good No Matter What

DYDD 4 O 5

Wedi Angori mewn Daioni

Efallai dy fod wedi clywed hyn o'r blaen: mae bywyd yn galed, mae Duw yn dda. Mae'r datganiad hwn yn llawer mwy nac ystrydeb: mae e'n wirionedd ddiwinyddol solet a chadarn. Mae rhai pobl hynod o glyfar wedi stryglo gyda chwestiynau fel, "os yw Duw yn dda, pam fod hyn yn digwydd? Pam fod anghyfiawnder yn cael ei ganiatáu, a pham fod bywyd yn gallu bod mor galed?"Daeth y pobl hynod o glyfar hynny i'r casgliad fod bywyd yn galed A mae Duw yn dda. Dydy un ddim yn dileu'r un arall. Maent yn ei alw yn "theodiciaeth.

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn tybio, gan fod bywyd yn galed, nad ydy Duw yn dda - ond nid felly mae hi. Dydy hi ddim yn senario o naill ai/neu. Rhai blynyddoedd yn ôl, penderfynais pan o'n i'n methu ateb y rhan "pam?" o'r datganiad "os yw Duw yn dda, pam____?", i ddileu'r "os". Penderfynais i gredu fod Duw yn dda... doed a ddelo.

Gelli angori dy hun yn naioni Duw hefyd.

Dechreua edrych am ddaioni Duw er gwaetha'r sefyllfa. Efallai fod y drws yn cau ar un cyfle, ond efallai fod gan Dduw ddrws arall a gwell i ni gerdded drwyddo. Mae hyn wedi digwydd gymaint o weithiau yn fy mywyd fy hun fel fy mod i nawr yn disgwyl hyn. Pan nad yw rywbeth yn mynd o'm plaid, dw i'n atgoffa fy hun am yr hyn mae Duw eisoes wedi'i wneud ac yn disgwyl am y cyfle nesaf ble bydd Duw yn amlygu ei gynllun i'r eithaf drwy'r broses.

Dydy angori dy hun yn naioni Duw ddim yn mynd i fod yn resymegol bob tro. Mae yn benderfyniad ystyfnig a difesur i beidio gadael i dreialon bywyd leihau mawredd Duw.

Ystyria hyn: Beth elli di ei wneud i'th atgoffa i chwilio am ddaioni Duw er gwaetha'r sefyllfa?

GWEDDÏA: O Dduw, diolch am fy angori yn dy ddaioni. Rho nerth imi heddiw i stopio synfyfyrio a dechrau edrych am y daioni ar fy nghyfer ym mhob sefyllfa. Yn enw Iesu. Amen.

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Believing God Is Good No Matter What

Mae yna rai negeseuon heddiw, tu allan a thu mewn i'r eglwys, sydd wedi llygru gwir neges ffafr Duw. Y gwir ydy does dim rheidrwydd ar Dduw i ddarparu pethau da ar ein gyfer - ond dyna mae e ei eisiau! Gall y pum niwrnod nesaf dy helpu i gymryd golwg o'r newydd drwy lygaid sy'n anwybyddu'r niwl dyddiol gan weld caredigrwydd diamheuol ac eithafol Duw.

More

Hoffem ddiolch i WaterBrook Multnomah Publishing Group am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.goodthingsbook.com