Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Sicrwydd mewn Adegau o AnsicrwyddSampl

Certainty In Times Of Uncertainty

DYDD 5 O 5

Mae yna dân tu mewn i bob un ohonom ni sy’n disgwyl i gael ei danio. Mae’n dân sy’n tyfu a lledaenu i’r rhai sydd o’n cwmpas os byddi di’n parhau i fwydo’r fflamau. Mae’r tân yma’n gryfach na’r ansicrwydd rwyt falle’n ei deimlo. Mae’r pŵer ganddo i oroesi’r negatifrwydd sydd o’th gwmpas y funud hon.

Plannwyd y tân, yr angerdd, y cryfder mewnol hwnnw o’th fewn gan dduw ei hun. Angerdd i wneud yr hyn y’th grëwyd i wneud, beth bynnag yw hynny. Cryfder mewnol i ddyfalbarhau ac ennill y dydd beth bynnag yw’r gwrthwynebiad.

Falle fy mod yn ansicr am beth ddaw yfory, ond dw i’n sicr bod rhaid imi weithredu heddiw.

Falle fy mod yn ansicr os yw fy amcanion yn mynd i lwyddo, ond dw i’n sicr o beth yw’r amcanion hynny.

Dw i’n ansicr am SUT y bydda i’n llwyddiannus, ond dw i’n SICR y bydda i’n llwyddiannus.

Dw i’n hollol bendant

Dw i wedi gwneud fy mhenderfyniad.

Mae fy Nuw wedi darparu’r adnoddau dw i'w hangen i weld fy mreuddwydion yn dwyn ffrwyth. Mae e wedi gofalu amdana i ers fy ngeni ac mae ei ewyllys yn ennill bob amser.

Dw i ddim yn siŵr sut y bydda i’n gwneud hi allan. Ond dw i’n siŵr. Dw i ddim yn gwybod pryd y bydd fy amcanion yn cael eu cwblhau, ond dw i’n gwybod y byddan nhw’n cael eu cwblhau.

Dw i’n hollol bendant.

Gaiff beth bynnag rwyt yn mynd drwyddo fyth y gorau ar yr Arglwydd. Mae pa bynnag boen, ofn, rhwystredigaeth, straen, gorbryder, neu ansicrwydd yn cael ei wneud yn SICR trwy Iesu Grist.

Mewn cyfnodau o ansicrwydd paid bod ag ofn. Bydd yn sicr.

I gysylltu â David Villa, Clicia Yma!

I danysgrifio i bodlediad David, Clicia yma

Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Certainty In Times Of Uncertainty

Yng nghanol ansicrwydd, mae Duw yn sicr! Ymuna â David Villa yn ei gynllun diweddaraf wrth iddo edrych heibio ansicrwydd a negyddiaeth er mwyn cyrraedd rhywbeth mwy.

More

Hoffem ddiolch i David Villa am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://davidvilla.me