Sicrwydd mewn Adegau o AnsicrwyddSampl
Pob diwrnod mae pobl ar draws y byd yn troi eu teledu ymlaen a gwylio’r newyddion.
Mae digwyddiadau byd-eang yn cael eu trafod ar bron bob sianel.
Mae yna negatifrwydd ym mhobman ar y rhyngrwyd.
Mae digonedd o gylchgronau a phapurau newydd ar gael, er nad ydyn nhw mor boblogaidd ag y buon nhw ar un adeg.
Ac mae’r ofn a’r negatifrwydd yn dal i fodoli’n helaeth.
Fedri di mo’i osgoi. Mae e i’w weld 24/7. Mae negatifrwydd yn bla.
Ond beth allwn ni ei wneud?
Dŷn ni’n troi lefel y sain i fyny.
Dŷn ni’n clicio ar y linc.
Dŷn ni’n neidio i’r dudalen nesaf.
A dŷn ni’n caniatáu i negatifrwydd dreiddio i’n meddwl. Dŷn ni’n poeni am ba bynnag ryfel sydd yn y byd, am unrhyw bla sydd yn lledaenu, cyflwr y farchnad stoc.
Pam gwneud hyn? Beth yw ein diddordeb gyda’r math hwn o wybodaeth?Mae ofn arnom
Dydy e ddim yn gyfrinach fod yna lot o dywyllwch yn y byd, sy’n fodlon dal gafael yn y rheiny sy’n fodlon gwrando.
Ond hefyd mae yna lot o oleuni.
A ble mae yna oleuni, all y tywyllwch ddim goroesi.
Y golau sydd wedi llewyrchu arna i wastad yn y cyfnodau duaf o’m mywyd yw Gair Duw. Oherwydd waeth ym mha sefyllfa rwyt yn cael dy hun ynddo, bydd y Beibl yn dy arwain drwy’r camau, er mynd trwyddo. Argyfwng ariannol, materion yn eich priodas neu berthynas, problemau yn y gwaith, yn yr ysgol, trychinebau byd-eang, maent nhw’n welw o gymharu â'r Arglwydd, a thragwyddoldeb. Eich Beibl yw eich ffynhonnell golau ddiddiwedd.
Hyd yn oed yn y stafelloedd tywyllaf, pan fydd lamp y cael ei chynnau, mae’r golau’n goroesi’r tywyllwch. Hyd yn oed yn wyneb adfyd, ynghanol trasiedïau ac ansicrwydd, mae'r goleuni y mae'r Arglwydd yn disgleirio arnom yn dal i fuddugoliaeth. Nid oes dim byd mwy. Does dim byd mwy disglair.
Yng nghanol tywyllwch, dw i'n dewis estyn allan tuag at y golau. Er mwyn caniatáu iddo ddisgleirio ar fy ysbryd ac i arwain y ffordd i ddyddiau gwell.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Yng nghanol ansicrwydd, mae Duw yn sicr! Ymuna â David Villa yn ei gynllun diweddaraf wrth iddo edrych heibio ansicrwydd a negyddiaeth er mwyn cyrraedd rhywbeth mwy.
More