Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Yr hyn mae'r Tad yn ddweudSampl

What The Father Says

DYDD 1 O 3

Ti ydy fy Mab annwyl i

Mae'r Tad yn dweud, “Roeddet ti’n fy ngweld i cyn bod siâp arna i! O rif y blew ar dy ben i nifer y dyddiau yn dy fywyd, fe'th wneuthum er fy mhleser a'm hyfrydwch. Mwy niferus na'r tywod ar y lan, yw fy meddyliau am gariad tuag atoch. Hwn ydy fy Mab annwyl i; mae wedi fy mhlesio i’n llwyr.”

Rwyt ti'n blentyn i Dduw! Mae llawer o bobl wedi tyfu i fyny mewn teuluoedd gyda thadau nad oedden nhw’n actif, mae eraill wedi tyfu i fyny gyda thadau rhyfeddol, neu efallai dadau nad oedden nhw’n bresennol o gwbl. Mae'r darn hwn o'n stori yn aml yn dod yn lens y gwelwn ein Tad nefol drwyddi.

Sut un wyt ti’n dychmygu ydy dy Dad Abba?

Dywed Allison Fowler, “Y galon yw'r lens y gwelwn Dduw drwyddi. Os gwrthodwn faddau, daw ein chwerwder a’n dicter yn fudreddi sy’n cymylu ein gallu i’w weld yn glir.” Felly gwahodda’r Arglwydd i sgubo dy galon o gredoau ffug o'i gymeriad a allai fod wedi ffurfio o'th fagwraeth neu'r heriau y gallet fod wedi'u hwynebu. Gad i realiti ei gymeriad setlo'n ddwfn ynot ti: mae cymeriad Duw yn ymgorfforiad o berffeithrwydd, caredigrwydd, a chariad; y mae heb nam, na marc, na staen.

Cymera ychydig funudau, cau dy lygaid, a myfyria ar natur syfrdanol Duw. Mae olew iachusol o'r nef yn gorlifo i'th galon ar hyn o bryd, yn cael gwared ar niwl, ac yn agor llygaid dy galon. Gwranda ar lais dy Dad wrth iddo sibrwd gwirionedd i'th ysbryd, a derbyn ei gariad helaeth sy'n chwyddo yn ei galon tuag atat. Mae'r Tad yn dweud, “Ti ydy fy mhlentyn annwyl.”

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

What The Father Says

Mae meddyliau’r Tad o gariad tuag atat gymaint mwy nag ydy’r tywod ar lan y môr. Ti ydy ei annwyl blentyn, ac mae wedi’i blesio yn llwyr ynot ti. Mae’r defosiwn hwn yn wahoddiad iti ddod ar draws natur berffaith, anhygoel dy Dad nefol. Yn ei gariad, nid oes ymdrech na braw, oherwydd yr wyt yng nghledr ei law.

More

Hoffem ddiolch i Church of the Nations am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://cfni.org/