Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Darganfod dy ffordd nôl at DduwSampl

Finding Your Way Back To God

DYDD 4 O 5

Mae Duw'n fy ngharu'n ddwfn wedi'r Cwbl

Yn y chwyldroi sy'n dy fywyd newydd gyda'r Tad, fe allai'r cam nesaf o ddeffro deimlo mwy fel cam yn ôl nac ymlaen. Mae Duw'n cynnig rywbeth i ti rwyt ei eisiau a'i angen - croeso adref. Ond, gall fod rywbeth o'th fewn sydd eisiau gwrthwynebu. Mae cael dy groesawu gartre gan dy Dad nefol a'th dderbyn i'w deulu - heb unrhyw gwestiynau - yn edrych mor afreal i rywun sydd wedi crwydro mor bell a mor hir oddi wrtho.

Dŷn ni'n galw'r cyfnod yma o daith yn ddeffro i gariad. Ar y pwynt hwn dŷn ni'n dechrau drwy ddweud, "Dw i ddim yn haeddu hyn." Mae derbyniad Duw yn anghredadwy. Ond mae beth mae Duw'n ei ddweud a'i wneud gymaint i'r gwrthwynebo'r hyn dŷn ni'n ei feddwl bod ni'n haeddu, dŷn ni'n cael ein symud at y sylweddoliad anhygoel: "Mae Duw'n fy ngharu'n ddwfn wedi'r cwbl."

Gelli weld pam dŷn ni'n dweud bod brwydr ysbrydol yn cyd-redeg efo ein taith gartref, Mae gynnon ni un set o argyhoeddiadau, ac mae gan Dduw, set arall. Dŷn ni'n edrych ar ein gorffennol llawn methiannau a chywilydd, ac mae e'n edrych arnom ni gyda chariad a thosturi.

Dyna pam fod y deffro hwn yn dorri trwodd. Dŷn ni'n sylweddoli, am y tro cyntaf efallai, nad ydy run ohonon ni'n haeddu ail gyfle, does run ohonon ni'n haeddu cael maddeuant, ond mae Duw'n ei roi i ti beth bynnag.

Os wyt ti fel y rhan fwyaf ohonom, rwyt yn gwybod am drac sain cywilydd. Mae cywilydd yn sibrwd, "Dwyt ti ddim o bwys go iawn" a "Dwyt ti ddim yn un i'w garu." Mae cywilydd yn gweiddi, "Dim mwy o gyfleon i ti!" Mae cywilydd yn dod â hunan arfarnu, a phan fyddwn yn profi gras am y tro cyntaf, dŷn ni'n ffeindio ein hunain yn ail adrodd, "Dw i ddim yn haeddu hyn."

Paid â gadael i camgymeriadau a methiannau'r gorffennol dy ddiffinio. Dyna i'w llais cywilydd. Nid beth wyt ti wedi'i wneud neu heb ei wneud wyt ti. Nid beth sydd wedi'i wneud i ti wyt ti. Yr hyn mae Duw'n ei ddweud wyt ti. Ei blentyn.

Wyt ti'n teimlo brwydr ysbrydol o'th mewn? Os wyt ti, sut fyddet ti'n ei ddisgrifio?

Ysgrythur

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Finding Your Way Back To God

Wyt ti'n chwilio am fwy allan o fywyd? Dymuniad mwy sydd mewn gwirionedd yn awchu am ddychwelyd at Dduw — ble bynnag mae dy berthynas â Duw yn awr. Dŷn ni i gyd yn profi cerrig milltir — neu ddeffroadau — wrth i ni ganfod ein ffordd yn ôl at Dduw. Cymer olwg ar y deffroadau hyn a chau'r bwlch sydd rhwng ble rwyt ti ar hyn o bryd a ble hoffet ti fod. Dŷn ni eisiau dod o hyd i Dduw ac mae e eisiau ei ddarganfod gymaint mwy.

More

Hoffem ddiolch i WaterBrook Multnomah Publishing Group am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.goodthingsbook.com/catalog.php?work=235828