Darganfod dy ffordd nôl at DduwSampl
Fe hoffwn i Ddechrau o'r Newydd
Y rhwystr nesaf i'w dorri drwodd yn ein taith nôl at Dduw sef deffro i edifarhau. Rwyt yn edrych ar dy fywyd un bore ac yn sylweddoli, er gwaethaf dy holl ymdrechion, ti wedi gwneud llanast llwyr o bethau. Rwyt wedi dy lenwi â siomedigaeth ac edifeirwch. Gan fod ti nawr yn gweld pethau'n gliriach, fe hoffet ti gyfle arall. Ond dwyt ti ddim yn siŵr os ydy'r cyfle gen ti.
Erbyn meddwl, pam ddylet ti?
Ond aros gyda ni.
Tu mewn i bob un ohonon ni mae'r argyhoeddiad ein bod wedi dod o ddaioni a chariad a dŷn ni wedi ein gwneud ar gyfer nwy ohono. Pan dŷn ni'n taro'r gwaelod a sylweddoli gymaint o lanast dŷn ni wedi'i wneud o fywyd, a bywyd ohono ni, ein hymateb yw, "Faswn i wrth fy modd yn cael dechrau o'r newydd."
Yr hyn sy'n hyfryd yw dy fod yn gallu dechrau o'r newydd. Mae dy reddf am dy ddechreuadau mewn daioni a chariad yn hollol gywir. Mae Duw'n caniatáu i ti ddechrau o'r newydd.
Mae'r rhan fwyaf ohonom eisiau mynd yn ôl i'r bywyd oedd gennym cyn iu bethau fynd o chwith. Nid felly mae Duw yn meddwl. Dydy e ddim am i n i fynd yn ôl i'r bywyd gwell oedd gynnon ni fel bydden ni'n dychmygu. Mae e eisiau i ni brofi math gwahanol hollol o fywyd. Nid dim ond dy ddyfodol sy'n newid pan rwyt yn dod o hyd i Dduw eto, ond dy orffennol a presennol hefyd.
Wyt ti'n barod i adael o'th ôl byw bywyd o ddiwrnodau di-ddiwedd o boen o'r gorffennol, dim pwrpas yn dy bresennol, a dim hyder am y dyfodol? Mae dy daith oddi wrth y difaru ac ymlaen at dy gartref yn Nuw, yn dy gymryd hefyd, i fywyd dyfnach a gwirioneddol - y math o fywyd sy'n dy wahodd i ddechrau o'r newydd heddiw a dechrau byw yn y ffordd roedd Duw wedi bwriadu i ti fyw erioed... am byth.
Sut olwg fyddai ar gredu bod Duw yn caniatáu i ti ddechrau o'r newydd heddiw eto? Sut fyddai dy deimladau am y dyfodol y newid?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Wyt ti'n chwilio am fwy allan o fywyd? Dymuniad mwy sydd mewn gwirionedd yn awchu am ddychwelyd at Dduw — ble bynnag mae dy berthynas â Duw yn awr. Dŷn ni i gyd yn profi cerrig milltir — neu ddeffroadau — wrth i ni ganfod ein ffordd yn ôl at Dduw. Cymer olwg ar y deffroadau hyn a chau'r bwlch sydd rhwng ble rwyt ti ar hyn o bryd a ble hoffet ti fod. Dŷn ni eisiau dod o hyd i Dduw ac mae e eisiau ei ddarganfod gymaint mwy.
More