Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Profi Duw’n dy adnewydduSampl

Experiencing God's Renewal

DYDD 3 O 5

Mae wedi cael ei ddweud lawer gwaith mai’r meddwl ydy maes chwarae’r diafol. Mae yna lot o wirionedd yn y gosodiad gan fod cymaint o'r brwydrau ysbrydol rydyn ni’n eu hymladd yn erbyn y gelyn yn digwydd yn y meddwl. Falle fod y gelyn yn plannu teimladau o euogrwydd am ryw bechod yn y gorffennol dro ar ôl tro, neu afael rhyw ddibyniaeth nad wyt wedi ei goresgyn yn llawn. Falle ei fod yn sibrwd geiriau negyddol sy'n codi amheuon am dy ffydd neu dy allu i wneud beth mae Duw wedi bwriadu i ti ei wneud. Gwna beth mae Rhufeiniaid 12:2 yn ei ddweud heddiw, a gadael i Dduw newid dy fywyd drwy chwyldroi dy ffordd o feddwl. Gweddïa heddiw, a gofyn i Dduw symud y meddyliau negyddol mae’r gelyn ysbrydol yn eu plannu yn dy feddwl, a gadael i Dduw adnewyddu dy feddwl a disodli’r negyddiaeth gydag eglurder a phurdeb. Gad i Dduw dy helpu i ymladd y frwydr yn y meddwl a sicrhau buddugoliaeth.
Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Experiencing God's Renewal

Mae bod yn greadigaeth newydd yng Nghrist yn golygu ein bod yn cael eu hadnewyddu yn gyson drwy Ef. Mae Duw yn adnewyddu ein calonnau, meddyliau, a’n cyrff. Mae hyd yn oed yn adnewyddu pwrpas ein bywydau. Yn ystod y cynllun darllen 5-diwrnod hwn, byddi’n plymio’n ddwfn i’r hyn mae Gair Duw yn ei ddweud am adnewyddiad. Bob dydd, byddi’n cael darlleniad o'r Beibl a sylwadau defosiynol byr fydd yn dy helpu i fyfyrio ar y gwahanol ffyrdd y gallwn brofi adnewyddaid Duw.

More

We would like to thank Life.Church for providing this plan. For more information, please visit: www.life.church