Profi Duw’n dy adnewydduSampl

Mae bod yn greadigaeth newydd yng Nghrist yn golygu dy fod wedi cael dy adnewyddu. Mae'r hen berson pechadurus oeddet ti wedi mynd o ganlyniad i adnewyddiad llwyr trwy Grist. Yn wir, mae’r gair Adnewyddu yn cael ei ddiffinio fel "newid i fod yn rhywbeth newydd a gwahanol, rhywbeth gwell." Mae’n crynhoi beth ydy adnewyddiad yng Nghrist, sef ein bod yn cael ein hail-lunio i fod yn rywbeth gwell. I rai ohonon ni, gallai fod wedi bod yn dipyn o frwydr i gael gwared â’r hen hunan pechadurus a chael ein bywyd wedi ei adnewyddu. Gall fod yn dal yn anodd, ond dealla hyn: os gwnei di sefyll yn gadarn yn dy berthynas â Duw, bydd e’n gweithio yn dy fywyd i’th adnewyddu a chael gwared â staeniau’r pechod sy’n dy blagio’n barhaus.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Mae bod yn greadigaeth newydd yng Nghrist yn golygu ein bod yn cael eu hadnewyddu yn gyson drwy Ef. Mae Duw yn adnewyddu ein calonnau, meddyliau, a’n cyrff. Mae hyd yn oed yn adnewyddu pwrpas ein bywydau. Yn ystod y cynllun darllen 5-diwrnod hwn, byddi’n plymio’n ddwfn i’r hyn mae Gair Duw yn ei ddweud am adnewyddiad. Bob dydd, byddi’n cael darlleniad o'r Beibl a sylwadau defosiynol byr fydd yn dy helpu i fyfyrio ar y gwahanol ffyrdd y gallwn brofi adnewyddaid Duw.
More
We would like to thank Life.Church for providing this plan. For more information, please visit: www.life.church
Cynlluniau Tebyg

Cofio'r cyfan mae Duw wedi'i wneud.

Diwenwyno'r enaid

Defnyddio dy amser ar gyfer Duw

Siarad â Duw drwy weddi

Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob Her

Un Gair Fydd yn Newid dy Fywyd

Mae credu Duw yn beth da beth bynnag sy'n bod

Y cynllun darllen gwell

Wedi Newid: Camau Nesaf i Fywyd Newydd
