Logo YouVersion
Eicon Chwilio

AflonyddwchSampl

Restless

DYDD 3 O 3

Ddoe, gwelsom fel y gwnaeth Iesu ail-lunio'r syniad o Saboth fel dydd o orffwys i rodd i'w fwynhau, yn hytrach na deddf i ufuddhau iddi. Felly, os cafodd Saboth, yng ngeiriau Iesu, “er lles pobl,” (Marc 2:27), daw’r cwestiwn, beth sydd ei angen ar pobl? Fel y gwelsom yn niwrnod cyntaf y cynllun hwn, mae angen gwrthwenwyn arnom i aflonyddwch, sef cyfnewid pethau sy’n llethu bywyd yn rheolaidd am bethau sy’n rhoi bywyd, ymarfer diolchgarwch, ac atgoffa ein hunain o sut mae gwaith Iesu ar y groes yn ein rhyddhau o’r pwysau o weithio'n ddiddiwedd.

Mae sut awn ni ati i wneud y pethau hyn yn mynd i amrywio o berson i berson. Gan mai Iesu yw'r cyfamod newydd dŷn ni ddim wedi ein clymu i un diwrnod penodol yn yr wythnos pryd dylen ni orffwys. Gallwch orffwys bob nos os ar ôl rhoi'r plant yn eu gwelyau, neu ar wyliau haf, neu'n ôl traddodiad, ar un diwrnod penodol o'r wythnos.

Mae fy nheulu a minnau’n cofleidio rhodd o orffwys, tebyg i'r Saboth, bob dydd Sul, pan geisiwn wneud pethau sy’n “rhoi bywyd” yn unig a cheisio, cystal ag y gallwn i roi’r gorau, i bopeth sy'n golygu ymdrech a chanlyniad. I ni, mae hynny'n golygu, peidio defnyddio ein ffonau, bwyta ein hoff fwydydd, treulio mwy o amser yng Ngair Duw, a mwynhau amser gyda'n teulu a'n ffrindiau agosaf. Ond y gorffwys mwyaf i mi yw ein bod, am un diwrnod, yn fwriadol atal unrhyw sgwrs sy'n arwain i benderfyniad. Mae hynny'n golygu dim siarad syniadau ar gyfer fy llyfr nesaf, dim cynllunio ein gwyliau nesaf, a dim trafod calendrau ar gyfer yr wythnos sydd i ddod. Am un diwrnod, hyd eithaf ein gallu, dŷn ni'n syml, yn gorffwys ac yn gwerthfawrogi'r pethau da, y gwaith a'r bobl y mae Duw wedi'u rhoi i ni - heb ymdrechu am ddim mwy.

Wrth i fy ngwraig a minnau ddechrau cymryd cyfnodau Sabothol ychydig flynyddoedd yn ôl, daeth yn amlwg yn fuan pam y dywedodd Iesu fod y Saboth er lles pobl. ac nid yna i'w caethiwo. Mae'r Saboth yn gyfle i orffwys o bwysau di-baid y byd i fod yn cyflawni, datrys, difyrru, gwario, postio a gwneud rywbeth yn gyson. Mae'n ddiwrnod i edrych ar ein bywyd, ein gwaith, a'r groes a dweud gyda bodlonrwydd mawr, “Mae hyn yn ddigon!”

Nid yw'r math hwn o orffwys yn hawdd i mi. Ddim ar unrhyw gyfrif. Ond, po fwyaf y byddaf yn cymryd y cyfnodau Sabothol hyn, lleia'n byd yw fy aflonyddwch a phryder. Os wyt yn aflonydd fel fi, dw i'n dy annog i wrando ar Iesu'n dweud wrthot ti fod y cyfnod Sabothol ar dy gyfer di. Nid yw'n orchymyn cyfreithlon mwyach. Mae'n anrheg sy'n fwy perthnasol heddiw nag erioed o'r blaen. Dw i'n gweddïo y byddi di'n ei gofleidio.

A oedd y cynllun hwn o gymorth?

Dos i edrych ar adnoddau eraill gan Jason Raynor

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Restless

"Mae ein calonnau'n aflonydd nes dod o hyd i orffwys ynddot ti." Nid yw cymaint ohonom erioed o'r blaen wedi teimlo'r aflonyddwch a ddisgrifiwyd gan Awstin gyda'r frawddeg enwog hon. Ond beth yw'r ateb i'n diffyg gwir orffwys? Fel y bydd y cynllun tridiau hwn yn ei ddangos, yr ateb yn rhannol yw gweld arfer hynafol Saboth trwy lens wahanol - trwy dy lens “di” —Iesu - ein ffynhonnell heddwch eithaf.

More

Hoffem ddiolch i Jordan Raynor am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.jordanraynor.com/restless/