Logo YouVersion
Eicon Chwilio

AflonyddwchSampl

Restless

DYDD 2 O 3

Ddoe, daethom i'r casgliad mai'r ateb i'n aflonyddwch oedd gorffwys Sabothol oddi wrth ffynonellau ein haflonyddwch. Yfory, fe wnawn ni edrych ar pa mor ymarferol ydyn ni, fel Cristnogion, yn gwneud hynny yn yr unfed ganrif a'r hugain. Ond yn gyntaf rhaid i ni edrych ar yr hyn sydd ddim yn Saboth i Gristion heddiw. Y lle gorau i wneud hynny yw mynd yn ôl at wreiddiau'r Saboth ei hun.

Pan roddodd Duw y Deg Gorchymyn i Moses ar Fynydd Sinai, gorchmynnodd y dylai'r Israeliaid orffwys ar y seithfed diwrnod. Roedd hwn i fod yn arwydd o gyfamod Duw gyda'i bobl. Ac wrth gwrs, roedd hyn yn dilyn y patrwm o Dduw'n gorffwys ar y seithfed diwrnod ar ôl y creu.

Yn yr Hen Destament roedd y Saboth yn cael ei ddilyn gyda rheolau a chanllawiau llym. Er enghraifft, doedd yr Israeliaid ddim i gynnau tanau (Exodus, pennod 35, adnod 3), casglu bwyd (Exodus, pennod 16, adnodau 23 i 29), gwerthu nwyddau'n y farchnad (Nehemeia, pennod 10, adnod 31), Roedd y gosb am dorri'r Saboth yn fwriadol yn ddim llai na marwolaeth (Exodus, pennod 31: adnodau 14 i 15).

Dros amser aeth yr Israeliaid â'r Saboth i'w eithafion mwyaf cyfreithlon, i'r pwynt lle roedden nhw, erbyn i Iesu ddod i'r ddaear, hyd yn oed yn ystyried iachau ar y Saboth fel pechod. Pan welodd y Phariseaid Iesu'n iachau a pigo grawn mewn cae ar y Saboth ym Mathew, pennod 12, dyma nhw'n ei herio a thynnu ei sylw at yr hyn oedd yn ymddangos yn anghyfreithlon. Atebodd Iesu nhw, "Mae gen i, Fab y Dyn, hawl i ddweud beth sy'n iawn ar y Saboth" (Mathew, pennod 12, adnod 8), gan ddangos bod cyfamod newydd yma ym mherson Crist. Yn fersiwn Marc o'r digwyddiadau mae e wedi'i gofnodi fod Iesu wedi dweud, "Cafodd y dydd Saboth ei roi er lles pobl, dim i gaethiwo pobl" (Marc, pennod2, adnod 27). Mae Iesu'n dweud yma fod y Saboth, drwyddo e, ddim bellach yn orchymyn yn y Gyfraith. Yn lle hynny, mae e'n rodd i'r rhai sy'n aflonydd.

Beth oedd Iesu'n ei olygu pan dwedodd fod y Saboth wedi'i roi er lles pobl? Sut, yn ymarferol, allwn ni fanteisio ar y rhodd hwnnw? Sut mae gorffwys yn gyson heddiw, heb wneud y gorffwys yn gyfreithlon ac yn llethu bywyd? Dyna'r cwestiynau y byddwn yn eu hateb ar ddiwrnod olaf y cynllun hwn.

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Restless

"Mae ein calonnau'n aflonydd nes dod o hyd i orffwys ynddot ti." Nid yw cymaint ohonom erioed o'r blaen wedi teimlo'r aflonyddwch a ddisgrifiwyd gan Awstin gyda'r frawddeg enwog hon. Ond beth yw'r ateb i'n diffyg gwir orffwys? Fel y bydd y cynllun tridiau hwn yn ei ddangos, yr ateb yn rhannol yw gweld arfer hynafol Saboth trwy lens wahanol - trwy dy lens “di” —Iesu - ein ffynhonnell heddwch eithaf.

More

Hoffem ddiolch i Jordan Raynor am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.jordanraynor.com/restless/