Chwe Cam i dy Arweinyddiaeth OrauSampl
Nawr, Gwna Fe
Paid gorffen y cynllun Beibl hwn heb wneud rywbeth amdano fe. Mae arweinydd yn gweithredu ar wybodaeth sy'n arwain at drawsffurfio. Beth yn union yw dy gam nesaf? Mae Duw yn barod i wneud cymaint mwy na fyddet ti fyth yn gallu ei ofyn, ei feddwl, ei ddychmygu, drwy ei rym sydd ar waith.
- Disgyblaeth i Ddechrau:Pan wyt ti'n gwybod pwy wyt ti, neu beth rwyt am fod, byddi'n gwybod beth i'w wneud. Ar sail pwy rwyt am fod, pa ddisgyblaeth wyt ti angen ei ddechrau?
- Yr hyder i Stopio: Ar sail pwy rwyt am fod, beth sydd ei angen arnat i stopio? Paid meddwl yn unig am bethau negatif. Falle boid rhaid iti stopio gwneud rywbeth pwysig a'i roi i rywun arall.
- Person i'w Awdurdodi: Pwy fyddi di'n ei awdurdodi? Paid bod fel caead i'r bobl rwyt yn eu harwain. Falle y byddi di'n awdurdodi rywun i wneud rywbeth pwysig roedd gen ti'r hyder i stopio ei wneud. .
- System i'w Greu|:Ble wyt ti'n gweld tensiwn? Yn drefniadol, ble mae'r problemau? Pa system sydd raid i ti ei greu i gael y canlyniad rwyt ti ei eisiau?
- Perthynas i'w roi ar Waith: Ar sail pwy rwyt ti am fod, pwy sydd gen ti angen ei gwrdd? Pa berthynas rwyt eisiau ei roi ar waith? Fe allet ti fod un berthynas i ffwrdd o newid cwrs dy dynged.
- Risg rwyt angen ei Gymryd:Ar sail pwy rwyt am fod a'i wneud, pa risg wyt ti angen ei gymryd\/ Os byddi'n disgwyl nes dy fod yn barod byddi wastad yn hwyr.
Yn olaf, bydd pwy wnaeth Duw i ti fod. Fydde'n well gan bobl ddilyn arweinydd sy'n real yn hytrach na arweinydd wastad yn iawn.
Siarada â Duw: Dduw, dw i'n dy drystio i wneud mwy na faswn i fyth yn allu ei wneud yn fy nerth fy hun. A wnei di roi i mi'r doethineb, hyder, a nerth i gymryd y cam nesaf?
Am y Cynllun hwn
Wyt ti'n barod i dyfu fel arweinydd? Mae Caraig Groeschel yn dadbacio chwe cam Beiblaidd gall unrhyw un ei gymryd i fod yn arweinydd gwell. Tyrd o hyd i ddisgyblaeth i ddechrau, hyder i stopio, a pherson i'w awdurdodi, system i greu, a pherthynas i'w ddechrau. a risg sydd raid i ti ei gymryd.
More