Chwe Cam i dy Arweinyddiaeth OrauSampl
Yr Hyder i Stopio
Os cafodd unrhyw un ei eni gyda potensial anghygoel fel arweinydd, y person hwnnw oedd Samson, er hynny syrthiodd ei fywyd yn deilchion oherwydd roedd yn ddiffygiol o'r gallu i stopio.
Dechreuodd fynd o'i le yn Barnwyr, pennod 16, adnod 1 (beibl.net): "Aeth Samson i Gasa. Yno gwelodd butain,"
Mae Gasa ryw 25 milltir o Sora, tref enedigol Samson. Gaza oedd pencadlys Philistia ble roedd Samson yn y prif elyn. Hefyd, pan oedd Samson yn fyw - doedd dim math o dacsi, cerddodd Samson 25 milltir i diriogaeth y gelyn i weld putain.
Mae hynny'n 56,250 o gamau. Wnaeth Samson ddim andwyo ei fywyd ar un tro. Cymrodd 56,250 o gamau i'r cyfeiriad anghywir.
Dydy e ddim gwahanol i'n timoedd ni, ein m,udiadau, ein bywoliaeth, ein iechyd, a'n teuluoedd. Dŷn ni ddim yn camau allan gyda'r bwriad o ddifrodi'r cwbl ar amrantiad. Mae hynny n digwydd yn nodweddiadol drwy un penderfyniad gwael, un cam anghywir, un arferiad drwg, un dydd ar y tyro.
Felly, beth dŷn ni ei angen? Yr hyder i stopio. I ddweud na. I wneud llai. I wrthsefyll cymryd un cam arall i'r cyfeiriad anghywir. Beth sydd arnat ti ei angen i stopio?
wrth gwrs, dydy hyn ddim yn unig am stopio rywbeth sy'n amnlwg anghywir. A wyt ti'n reolwr? Falle bod yna gyfarfod cyffredin y geli di ei stopio. Os wyt ti'n gwthio adnoddau da i gyfeiriad projectau cyffredin, wnei di ddim gweld canlyniadau da. Pa brojectau wyt ti angen eu stopio? Pa dasgau pwysig sydd falle angen stopio fel dy fod yn tyfu fel arweinydd? I gyflawni mwy fel arweinydd falle bod rhaid i ti wneud llai.
Falle nad ydy e am waith. Falle dy fod fel Samson, a rwyt wedi cymryd, un, dau neu o gamaui'r cyfeiriad anghywir mewn perthynas, arferiad, neu gyda'th iechyd. Mae'r un peth yn wir, dydy hi ddim yn rhy hwyr i stopio.
Ystyria: Ar sail pwy ydw i am fod, ar gyfer beth ydw iangen yr hyder i stopio? Beth yw'r camau sy'n arwain at ganlyniadau anghywir? Pa dymer neu lefydd sy'n fy arwain, fel arfer, i helynt|? Pwy all fy helpu i stopio?
Am y Cynllun hwn
Wyt ti'n barod i dyfu fel arweinydd? Mae Caraig Groeschel yn dadbacio chwe cam Beiblaidd gall unrhyw un ei gymryd i fod yn arweinydd gwell. Tyrd o hyd i ddisgyblaeth i ddechrau, hyder i stopio, a pherson i'w awdurdodi, system i greu, a pherthynas i'w ddechrau. a risg sydd raid i ti ei gymryd.
More