Blas ar y Beibl 1Sampl
Darlleniad: Genesis 32:22-32
Dod wyneb yn wyneb â Duw
Roedd Jacob wedi treulio tua 20 mlynedd yn Haran gyda’i ewyrth Laban. Bellach mae’n barod i fynd adre i wlad Canaan gyda’i deulu a’i weision a’i forynion, a’r holl gyfoeth roedd wedi llwyddo i’w gynilo dros y blynyddoedd. Ond doedd o ddim yn edrych ymlaen at gyfarfod ei frawd Esau - roedd yn gwybod fod yr hyn wnaeth o 20 mlynedd ynghynt yn anghywir.
Yn ein darlleniad heddiw mae Jacob yn reslo gyda rhyw ddyn (angel?), ac yn gwrthod yn lân a gollwng gafael ynddo nes byddai’r dyn wedi ei fendithio. Roedd fel petai Jacob wedi synhwyro fod mwy na ‘dyn’ yma, ac ar ôl i’r dyn fynd mae’n dweud, “Dw i wedi gweld Duw wyneb yn wyneb.” Os oedd o’n ymwybodol o’r wedd oruwchnaturiol i’r cyfarfyddiad yma, mae Jacob fel petai’n cydnabod yn daer ei angen am help ac amddiffyn Duw wrth iddo feddwl am gyfarfod ei frawd Esau eto. Roedd wedi gweddïo am hynny - gw. Genesis 32:9-12. Duw oedd wedi dweud wrtho am fynd yn ôl (Genesis 31:3), ond roedd arno angen y sicrwydd y byddai popeth yn iawn.
Mae’r Beibl yn ein hannog ni i ddal ati i weddio a pheidio rhoi i fyny. Os oes yna ryw sefyllfa neu amgylchiad sy’n gwneud i ni deimlo’n ansicr, dylen ni ddal gafael yn Nuw. Mae’r hanes yma yn ddarlun o beth mae’n ei olygu i ddal ati i weddio nes byddwn ni’n cael ateb. Ac mae’r hanes yn Luc 11:1-13 yn dweud yr un peth. Mae Duw eisiau i ni ddal ati i weddio, a pheidio rhoi i fyny.
A beth sy’n digwydd pan mae Jacob yn dod wyneb yn wyneb â Duw? Mae yna newid mawr yn digwydd yn ei fywyd, ac mae’r enw newydd roddwyd iddo yn arwydd o’r newid hwnnw. Ystyr Jacob ydy “disodlwr / twyllwr”, ond ystyr ei enw newydd Israel ydy rhywbeth fel “ymladd gyda Duw” neu “Mae Duw yn ymladd”. Ond mae yna un peth arall i sylwi arno - mae Jacob yn gadael yr ornest wedi ei gloffi. Mae dod wyneb yn wyneb â Duw yn rhoi hyder i ni, ond mae hefyd yn ein gadael yn gloff - h.y. yn wan ynom ein hunain ac yn gorfod dibynnu fwy fyth ar Dduw.
Arfon Jones, beibl.net

Am y Cynllun hwn
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.
More
Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.