Blas ar y Beibl 1Sampl
Darlleniad: Iago 1:12-21
Pam mae bywyd mor anodd?
Wyt ti wedi clywed rhywun yn dweud erioed, “Pam mae Duw wedi gadael i hyn ddigwydd?” Falle eu bod nhw’n ymateb i ryw drychineb ofnadwy sy’n cael ei adrodd ar y newyddion. Neu falle, mai ymateb i brofedigaeth sydyn yn y teulu, neu sefyllfa lle mae cyfaill newydd ddarganfod ei fod yn dioddef o gancr neu ryw afiechyd difrifol arall.
Dydy’r Beibl erioed wedi addo y byddai bywyd yn hawdd i’r bobl hynny sy’n credu yn Nuw. Yn wir, mae Iesu yn dweud y byddai’r rhai sy’n ei ddilyn o yn wynebu pob math o dreialon. Ond pa mor anodd bynnag ydy stormydd bywyd, mae Duw yn addo y bydd o gyda ni trwyddyn nhw i gyd. Mae’r Duw hael wnaeth greu'r byd a’r bydysawd yn Dduw y gallwn ni ddibynnu arno. Dydy o ddim yn chwarae gemau hefo ni. Dydy o ddim yn ein temtio ni. A’i annogaeth i ni bob amser ydy “Dal ati!”
Ar ôl dweud hyn mae Iago yn ein hannog ni i ymddwyn mewn ffordd sy’n dangos ein bod ni’n bobl sy’n trystio Duw ac yn pwyso arno fo. Mae hynny’n golygu peidio siarad yn fyrbwyll a pheidio colli’n tymer, a chael gwared ag unrhyw feddyliau drwg.
Dydy gwneud hynny ddim yn hawdd bob amser, ac rydyn ni i gyd yn bobl sydd angen profi maddeuant Duw am fethu. Ond un ffordd o ddysgu byw felly ydy meithrin y ddawn o wrando - gwrando ar beth mae Duw yn ei ddweud wrthon ni, a gwrando ar beth mae’r sefyllfa anodd rydyn ni’n ei hwynebu yn ei ddweud. Mae gwrando yn weithred sy’n tawelu sefyllfa o dyndra. Mae’n rhoi cyfle i’r teimladau gwyllt afreolus dawelu. Mae’n ddawn dda i ni i gyd ei meithrin.
Mae bywyd yn gallu bod yn anodd weithiau. Rydyn ni’n gallu gwneud bywyd yn anodd i ni’n hunain, ond mae gynnon ni Dduw sy’n sefyll gyda ni, yn ein hannog, ein cynnal a’n hachub drwy’r cwbl. Diolcha iddo heddiw.
Arfon Jones, beibl.net

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.
More
Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.