Pob cam yn DdyfodiadSampl
Sgil yr enaid
Pan fydd rhywbeth yn digwydd na allwn ei esbonio, dŷn ni’n dweud fod hynny’n wyrth. O dan y diffiniadau hynny mae pethau mae consuriwr yn ei wneud, yn wyrth i mi, a dw i’n gwybod nad ydyn nhw, go iawn. Gwyrth yn nhraddodiad y Beibl yw, nid rhywbeth dŷn ni ddim yn ei ddeall, ond rhywbeth sy’n cael ei wneud drosom ni, na allwn ei wneud ein hunain. Mae gwyrth yn ymarferol. Mae’n beth mae Duw’n ei wneud droson ni neu’n ei wneud droson ni drwy bobl eraill na allwn ei wneud ein hunain.
Mae’n bosibl y byddet ti’n ei ddeall, ond dydy hynny ddim yn ei rwystro rhag bod yn wyrth. Dydy’r gair ddim yn golygu yr hyn sydd tu hwnt i’n hamgyffred ond yn hytrach yr hyn sydd tu hwnt i’n gallu. Felly, fel yna, pan dw i’n mynd allan yn y bore a gweld yr haul yn gwawrio dw i’n gallu dweud, “Mae hwnna’n wyrth.” A byddwn i’n feiblaidd gywir. Mae pob bore yn wyrth.
Felly sut wyt ti’n ffocysu i weld gwyrth pob diwrnod? Sut wyt ti’n hyfforddi dy hun i’r ddisgyblaeth o gau allan synau aflafar y byd fel dy fod yn gallu clywed symffoni’r angel yn canu gogoniant Duw yn y goruchaf?
Rwyt yn gallu talu sylw, bod yn agored dy feddwl, yn chwilfrydig, dy ddoethineb. Dydy gwrando ddim yn weithred fiolegol yn unig, ond hefyd mae’n sgil ysbrydol yr enaid.
Paid cael dy gamarwain gan y plentyn yn y cafn bwydo anifeiliaid. Roedd yn blentyn, ond mae o deulu Moses y proffwyd ac mae’n siarad â ni heddiw. Mae e’n dweud rhywbeth sydd wedi’i lunio i reoli dy fywyd, i dy arwain mewn ffordd newydd o fodolaeth, rhywbeth sy’n gallu ennyn ymateb sydd â dimensiwn tragwyddol iddo. Mae’n dweud fod Duw’n dy garu. Fod Duw wedi dy dderbyn, fod i’th fywyd ystyr tragwyddol a thynged.
Ydw i’n clywed ti’n dweud dy fod wedi clywed hynny i gyd o’r blaen? Na, gair newydd brawychus, bywiog, hardd yw hwnnw. Unwaith y byddi’n clywed hynny, ni fyddi fyth yn clywed unrhyw beth hen eto. Bydd popeth yn newydd. Dyna'r math o beth sy'n dal i swnio'n newydd bob tro y mae'n cael ei glywed.
Beth yw’r un peth allet ei wneud heddiw i uniaethu dy galon a’th feddwl i’r wyrth o bresenoldeb Duw yn dy fywyd?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Hyderwn fod y pum defosiwn gan Eugene Peterson yn mynd â’th feddwl a chalon ar daith, gan na wyt yn gwybod beth fydd yr Ysbryd yn ei ddefnyddio i dy annog, herio, neu gysuro. Falle y byddi’n dewis defnyddio’r cwestiynau myfyrio sydd ar ddiwedd pob defosiwn i ffurfio dy weddi dy hun ar gyfer y diwrnod – yn sicr nid fel man gorffen ond yn hytrach fel dechrau ar gyfer yr hyn sydd eto i ddod.
More