Pob cam yn DdyfodiadSampl
Derbyn yr hyn y mae Duw eisoes yn ei Wneud
Gymaint o weithiau yn y storïau Beiblaidd dŷn ni’n dysgu mwy am ein hunain drwy eu darllen na wnawn am hen hanes. Mae geiriau cwestiwn Gideon yn y darn hwn yn neidio’n rhwydd i’n gwefusau ein hunain: “Os ydy'r Arglwydd gyda ni, pam mae pethau mor ddrwg arnon ni?” (Barnwyr pennod 6, adnod 13 beibl. net.)
Mae Duw’n ymddangos mor bell i ffwrdd pan mae ein bywydau ni’n llawn marwolaeth, dioddefaint, diflastod, swyddi dŷn ni’n eu casáu, pobl dŷn ni ddim yn eu deall, sefyllfaoedd na allwn eu newid. Dŷn ni’n gwrando ar yr ateb i gwestiwn Gideon mewn gobaith y cawn ateb i un ni. Ond, fel sy’n digwydd mor aml yn y cyrddau rhwng Duw a’r pobl yn y Beibl, does dim ateb, o leiaf nid yr hyn y byddem yn ei ddisgwyl fel ateb. Yn hytrach mae yna orchymyn, “Dos, i achub Israel o afael y Midianiaid (adnod 14 beibl. net).
Mae ymateb Gideon yn debyg i beth fyddai’n hateb ni. “Ond feistr, sut alla i achub Israel? Dw i'n dod o'r clan lleiaf pwysig yn llwyth Manasse, a fi ydy mab ifancaf y teulu!” adnod 15 beibl. net). Ond, dangosodd Duw i Gideon nad oedd dim mwy o fewnsylliad dros fethiannau'r gorffennol, dim dyfalu ar y ffyrdd o dynged, dim hunanwerthuso. Roedd y fenter yn nwylo Duw, fel oedd nôl yn yr Aifft. Y cwbl oedd raid i Gideon wneud oed ufuddhau i’r gorchymyn. Y cwbl oedd angen iddo wneud oedd gwasanaethu, a byddai Duw’n darparu buddugoliaeth.
Nawr, rwyt tithau’n gallu edrych nôl dros dy fywyd, chwilio dwy hanes y teulu, cadw traddodiadau’r genedl, a gweld beth sy’n digwydd pan fydd person yn gwrthod ymateb i Dduw a gwrthod ei gariad. Mae anufudd-dod yn eithaf hawdd i’w adnabod. Ymhlith y symptomau arferol mae ymatebion moesol swrth, cydwybod anesmwyth sy'n amharu ar dy dreuliad, llwyth o euogrwydd sy'n gwneud i ti flino'n rhwydd, ac iselder iselradd sy'n dy sugno o unrhyw egni creadigol.
I’r un sy’n adnabod y symptomau hyn ynddo'i hun, mae gen i newyddion da. Mae Duw’n dy garu, ac mae e’n barod i faddau dy bechodau a chreu bywyd tragwyddol newydd i ti. Mae Duw’n barod, y foment hon, i ddileu’r gorffennol, i losgi bob cofnod amdanat ti. Does dim rwyt wedi’i wneud, na’i ddychmygu, yn dy wneud yn anghymwys i dderbyn yr hyn yr hyn mae e yn ei wneud i ti, hyd yn oed nawr.
Pryd bydd y synnwyr o dy wendidau neu ymwybyddiaeth o fethiannau’r gorffennol yn dy gadw rhag dilyn arweiniad Duw?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Hyderwn fod y pum defosiwn gan Eugene Peterson yn mynd â’th feddwl a chalon ar daith, gan na wyt yn gwybod beth fydd yr Ysbryd yn ei ddefnyddio i dy annog, herio, neu gysuro. Falle y byddi’n dewis defnyddio’r cwestiynau myfyrio sydd ar ddiwedd pob defosiwn i ffurfio dy weddi dy hun ar gyfer y diwrnod – yn sicr nid fel man gorffen ond yn hytrach fel dechrau ar gyfer yr hyn sydd eto i ddod.
More