Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Cael gwared ar OfnSampl

Get Rid Of Fear

DYDD 3 O 3

Wyt ti erioed wedi bod ar awyren mewn storm ddifrifol? Falle fod yr awyren wedi edrych fel ei bod allan o reolaeth am ychydig o amser, a wnest ti, fwy na thebyg, deimlo braidd yn nerfus. Os oeddet yn gwisgo dy wregys diogelwch mae’n bosib dy fod wedi’i thynhau. Wnest ti afael yn dynnach ym mraich y gadair. Falle dy fod yn teimlo annifyrrwch neu’n darllen yr un llinell yn dy lyfr drosodd a throsodd am dy fod wedi’i dy gynhyrfu gan yr holl sefyllfa.

Wedyn fe wnaeth y capten gyhoeddiad: “Dŷn ni wedi hedfan i storm, felly dŷn ni am godi’ uwch ei phen i geisio chwilio am lwybr tawelach.” Nawr, wnaeth dy broblem ddim diflannu. Roedd y storm dal yna. Ond wnest ti, mwy na thebyg, ochneidio, ymlacio, a mynd yn ôl i ddarllen a theimlo’n dawelach dy feddwl achos roedd dy sylw fwy ar gyhoeddiad y peilot, yn hytrach na’r storm.

Pan rwyt ti’n tynnu dy ffocws oddi ar dy ofnau a’i ailgyfeirio at Dduw - yr un sy’n cynllunio ein bywydau gyda sicrwydd - byddi di’n teimlo dy ofnau’n lleihau.

Arglwydd grasol, pan mae ofn arna I, dw i eisiau rhoi fy nhryst ynddo ti. Wnei di, plîs fy narparu gyda’r cwbl dw i ei angen - y meddyliau, gwirionedd, ac anogaeth - i wneud hynny go iawn? Dwyt ti ddim yn Dduw o ddryswch ond yn Dduw o heddwch. Pan nad ydw i’n teimlo heddwch, dw i wedi pellhau oddi wrthot ti. Grymusa fi fel fy mod yn, aros ynot ti. Bydd dy eiriau’n aros ynddo I, a gallaf brofi dy heddwch yn llawn. Yn enw Crist, Amen.

Wnest ti fwynhau’r darlleniad dyddiol hwn a’r weddi? Dŷn ni eisiau rhoi anrheg i ti o dri lawr lwythiad mp3 o bregethau Tony Evans; sy’n mynd yn ddyfnach i’r hyn wnaethon ni drafod heddiw; drwy’r linc canlynol. Cymer olwg ar y linc, yma.


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Get Rid Of Fear

Gelli oroesi teimladau o ofn. Mae Dr. Tony Evans yn dy arwain ar lwybr i ryddid yn y cynllun craff hwn. Darganfydda fywyd o hapusrwydd a heddwch rwyt wedi'i ddymuno wrth i ti weithredu ar yr egwyddorion sy'n cael eu gosod o'th flaen yn y cynllun hwn

More

Hoffem ddiolch i Harvest House Publishers am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://go.tonyevans.org/addiction