Cael gwared ar OfnSampl
Wyt ti’n barod i chwalu’r cadarnle o ofn mae’r gelyn wedi’i adeiladu yn dy galon a meddwl? Rhoddodd Iesu'r ateb i ti. Rwyt ti’n ei chwalu drwy newid dy flaenoriaethau. Dyma’n union yr hyn roedd yn siarad amdano yn Mathew, pennod 6, adnod 33 pan ddwedodd, “Y flaenoriaeth i chi ydy gadael i Dduw deyrnasu yn eich bywydau a gwneud beth sy'n iawn yn ei olwg; wedyn byddwch yn cael y pethau eraill yma i gyd.”
Mewn geiriau eraill, os wnei di dreulio dy amser ac egni yn uniaethu dy hun â’r hyn mae Duw’n ei wneud i hyrwyddo ei deyrnas ar y ddaear, mae e’n addo y bydd yn gefn i ti gyda’r pethau eraill mewn bywyd sydd falle’n achosi i ti ofni neu bryderu. Wnaeth Iesu gadarnhau hyn pan ddwedodd, “Felly, peidiwch poeni am fory, cewch groesi'r bont honno pan ddaw. Mae'n well wynebu problemau un dydd ar y tro” (adnod 34).
Mae Duw’n rhoi gras i ti, un dydd ar y tro. Fydd e ddim yn rhoi gras yfory i ti heddiw, a does dim ei angen arnat ti. Pam? Oherwydd mae ei Air e’n dweud wrthon ni, “Mae cariad ffyddlon yr Arglwydd yn ddiddiwedd, a'i garedigrwydd e'n para am byth. Maen nhw'n dod yn newydd bob bore. “ Arglwydd, rwyt ti mor anhygoel o ffyddlon!’ ”(Galarnad, pennod 3, adnodau 22 i 23). Felly, os wyt ti’n ofni a phryderu am beth sy’n mynd i ddigwydd yfory, rwyt yn ei hanfod yn dweud wrth Dduw nad wyt ti’n ei drystio. Ac rwyt ti’n anfon dy feddyliau dy hun i mewn i ryw drobwll o ofn a phryder fydd yn ymestyn dy ymddygiad caethiwus, yn hytrach na dy helpu i’w oroesi. Mae ofni yfory yn gwneud i ti golli heddwch a buddugoliaeth heddiw. Gad e fynd.
Arglwydd grasol, helpa fi i dalu pan fydd ofn yn sleifio i’m meddyliau. Helpa fi i ddal y meddyliau hynny cyn iddyn nhw luosi a thyfu. Rho ddoethineb imi ddirnad beth sy’n rhesymegol a beth sydd ddim, a rho imi'r gallu i drystio dy fod yn gefn imi. Dw i eisiau rhoi fy ofnau i ti, felly plîs rho imi'r gras i wneud hynny heddiw a phob dydd arall. Yn enw Crist, Amen.
Wnest ti fwynhau’r darlleniad dyddiol hwn a’r weddi? Dŷn ni eisiau rhoi anrheg i ti o dri lawr lwythiad mp3 o bregethau Tony Evans; sy’n mynd yn ddyfnach i’r hyn wnaethon ni drafod heddiw; drwy’r linc canlynol. Cymer olwg ar y linc, yma.
Am y Cynllun hwn
Gelli oroesi teimladau o ofn. Mae Dr. Tony Evans yn dy arwain ar lwybr i ryddid yn y cynllun craff hwn. Darganfydda fywyd o hapusrwydd a heddwch rwyt wedi'i ddymuno wrth i ti weithredu ar yr egwyddorion sy'n cael eu gosod o'th flaen yn y cynllun hwn
More