Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Oswald Chambers: Peace - Life in the SpiritSampl

Oswald Chambers: Peace - Life in the Spirit

DYDD 2 O 30

Dŷn ni'n siarad am "amgylchiadau nad oes gennym ni reolaeth drostyn nhw." Does gan yr un ohonom reolaeth dros ein hamgylchiadau ond dŷn ni'n gyfrifol am y ffordd dŷn ni'n ymdrin â phethau fel mae nhw ar y pryd. Gall dau gwch deithio i gyfeiriadau gwahanol yn yr un gwynt, ar sail sgil yr un sy'n llywio. Mae'r un sy'n lliwio ei gwch i mewn i greigiau'n dweud mai nid ei fai e oedd e gan fod y gwynt yn y cyfeiriad hynny. Roedd gan yr un aeth a'i gwch i'r harbwr yr un gwynt, ond gwyddai e sut i reoli'r hwyliau fel bod y gwynt yn ei yrru i'r cyfeiriad roedd e'n ei ddymuno. Bydd grym heddwch Duw'n dy alluogi i lywio cwrs dy fywyd yn nryswch bywyd cyffredin.

O Arglwydd, atat ti dw i'n troi. Dw i'n ddim ond crwydryn di-gartref nes dy fod yn fy nghyffwrdd â diogelwch dy heddwch, synnwyr hyfryd dy gariad.

Cwestiynau Myfyrdod: Pa bŵer sydd gan heddwch yn fy mywyd? Ydw i'n dwyn pŵer oddi ar heddwch drwy fynnu ei fod yn ildio i fy "synnwyr cyffredin"? Beth allai fod yn fwy sicr na bod mewn heddwch â Duw cariadus?

Dyfyniadau o The Moral Foundation of Life a Knocking at God’s Door, © Discovery House Publishers

Ysgrythur

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Oswald Chambers: Peace - Life in the Spirit

Mae Peace: Life in the Spirit yn n drysorfa ysbrydoledig o ddyfyniadau o weithiau Oswald Chambers, awdur defosiynol anwylaf y byd ac awdur My Utmost for His Highest. Tyrd o hyd i orffwys yn Nuw a chael dealltwriaeth ddyfnach o bwysigrwydd heddwch Duw yn dy fywyd.

More

Hoffem ddiolch i Discovery House Publishers am ddatparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.utmost.org