Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ruth 2:1-12

Ruth 2:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr oedd gan Naomi berthynas i'w gŵr, dyn cefnog o'r enw Boas o dylwyth Elimelech. Dywedodd Ruth y Foabes wrth Naomi, “Gad imi fynd i'r caeau ŷd i loffa ar ôl pwy bynnag fydd yn caniatáu imi.” Dywedodd Naomi wrthi, “Ie, dos, fy merch.” Felly fe aeth i'r caeau i loffa ar ôl y medelwyr, a digwyddodd iddi ddewis y rhandir oedd yn perthyn i Boas, y dyn oedd o dylwyth Elimelech. A dyna Boas ei hun yn cyrraedd o Fethlehem ac yn cyfarch y medelwyr, “Yr ARGLWYDD fyddo gyda chwi,” a hwythau'n ateb, “Bendithied yr ARGLWYDD dithau.” Yna gofynnodd Boas i'w was oedd yn gofalu am y medelwyr, “Geneth pwy yw hon?” Atebodd y gwas, “Geneth o Moab ydyw; hi a ddaeth yn ôl gyda Naomi o wlad Moab. Gofynnodd am ganiatâd i loffa a hel rhwng yr ysgubau ar ôl y medelwyr. Fe ddaeth, ac y mae wedi bod ar ei thraed o'r bore bach hyd yn awr, heb orffwys o gwbl.” Dywedodd Boas wrth Ruth, “Gwrando, fy merch, paid â mynd i loffa i faes arall na symud oddi yma, ond glŷn wrth fy llancesau i. Cadw dy lygaid ar y maes y maent yn ei fedi, a dilyn hwy. Onid wyf fi wedi gorchymyn i'r gweision beidio ag ymyrryd â thi? Os bydd syched arnat, dos i yfed o'r llestri a lanwodd y gweision.” Moesymgrymodd hithau hyd y llawr a dweud wrtho, “Pam yr wyf yn cael y fath garedigrwydd gennyt fel dy fod yn cymryd sylw ohonof fi, a minnau'n estrones?” Atebodd Boas hi a dweud, “Cefais wybod am y cwbl yr wyt ti wedi ei wneud i'th fam-yng-nghyfraith ar ôl marw dy ŵr, ac fel y gadewaist dy dad a'th fam a'th wlad enedigol, a dod at bobl nad oeddit yn eu hadnabod o'r blaen. Bydded i'r ARGLWYDD dy wobrwyo am dy weithred, a bydded iti gael dy dalu'n llawn gan yr ARGLWYDD, Duw Israel, y daethost i geisio nodded dan ei adain.”

Ruth 2:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd gan Naomi berthynas i’w gŵr o’r enw Boas. Roedd yn ddyn pwysig, cyfoethog, ac yn perthyn i’r un teulu ag Elimelech. Dyma Ruth, y Foabes, yn dweud wrth Naomi, “Gad i mi fynd allan i’r caeau i gasglu grawn tu ôl i bwy bynnag fydd yn rhoi caniatâd i mi.” “Dos di, fy merch i,” meddai Naomi. Felly aeth Ruth i’r caeau i gasglu grawn ar ôl y gweithwyr. Ac yn digwydd bod, dyma hi’n mynd i’r rhan o’r cae oedd piau Boas, perthynas Elimelech. A phwy fyddai’n meddwl! Dyma Boas yn dod o Fethlehem a chyfarch y gweithwyr yn y cynhaeaf. “Duw fyddo gyda chi!” meddai wrthyn nhw. A dyma nhw’n ateb, “Bendith Duw arnat tithau hefyd!” Yna gofynnodd Boas i’r gwas oedd yn gofalu am y gweithwyr, “I bwy mae’r ferch acw’n perthyn?” “Hi ydy’r ferch o Moab ddaeth yn ôl gyda Naomi,” atebodd hwnnw. “Gofynnodd ganiatâd i gasglu grawn rhwng yr ysgubau tu ôl i’r gweithwyr. Mae hi wedi bod wrthi’n ddi-stop ers ben bore, a dim ond newydd eistedd i orffwys.” Dyma Boas yn mynd at Ruth a dweud, “Gwranda, fy merch i, paid mynd o’r fan yma i gae neb arall i gasglu grawn. Aros gyda’r merched sy’n gweithio i mi. Sylwa ble fyddan nhw’n gweithio, a’u dilyn nhw. Bydda i’n siarsio’r gweithwyr i beidio dy gyffwrdd di. A phan fydd syched arnat ti, dos i gael diod o’r llestri fydd fy ngweision i wedi’u llenwi.” Dyma Ruth yn plygu i lawr ar ei gliniau o’i flaen. “Pam wyt ti mor garedig ata i, ac yn cymryd sylw ohono i, a finnau’n dod o wlad arall?” “Dw i wedi clywed am y cwbl rwyt i wedi’i wneud i dy fam-yng-nghyfraith ar ôl i dy ŵr farw,” meddai Boas. “Dw i wedi clywed sut wnest ti adael dy dad a dy fam, a’r wlad lle cest ti dy eni, a dod i fyw i ganol pobl oedd yn ddieithr i ti. Boed i Dduw dy wobrwyo di am wneud hyn. Byddi’n cael dy dâl yn llawn gan yr ARGLWYDD, Duw Israel, yr un wyt wedi dod i gysgodi dan ei adain.”

Ruth 2:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac i ŵr Naomi yr ydoedd câr, o ŵr cadarn nerthol, o dylwyth Elimelech, a’i enw Boas. A Ruth y Foabes a ddywedodd wrth Naomi, Gad i mi fyned yn awr i’r maes, a lloffa tywysennau ar ôl yr hwn y caffwyf ffafr yn ei olwg. Hithau a ddywedodd wrthi, Dos, fy merch. A hi a aeth, ac a ddaeth, ac a loffodd yn y maes ar ôl y medelwyr: a digwyddodd wrth ddamwain fod y rhan honno o’r maes yn eiddo Boas, yr hwn oedd o dylwyth Elimelech. Ac wele, Boas a ddaeth o Bethlehem, ac a ddywedodd wrth y medelwyr, Yr ARGLWYDD a fyddo gyda chwi. Hwythau a ddywedasant wrtho ef, Yr ARGLWYDD a’th fendithio. Yna y dywedodd Boas wrth ei was yr hwn oedd yn sefyll yn ymyl y medelwyr, Pwy biau y llances hon? A’r gwas yr hwn oedd yn sefyll wrth y medelwyr a atebodd, ac a ddywedodd, Y llances o Moab ydyw hi, yr hon a ddychwelodd gyda Naomi o wlad Moab: A hi a ddywedodd, Atolwg yr ydwyf gael lloffa, a chasglu ymysg yr ysgubau ar ôl y medelwyr: a hi a ddaeth, ac a arhosodd er y bore hyd yr awr hon, oddieithr aros ohoni hi ychydig yn tŷ. Yna y dywedodd Boas wrth Ruth, Oni chlywi di, fy merch? Na ddos i loffa i faes arall, ac na cherdda oddi yma; eithr aros yma gyda’m llancesau i. Bydded dy lygaid ar y maes y byddont hwy yn ei fedi; a dos ar eu hôl hwynt: oni orchmynnais i’r llanciau, na chyffyrddent â thi? A phan sychedych, dos at y llestri, ac yf o’r hwn a ollyngodd y llanciau. Yna hi a syrthiodd ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd i lawr, ac a ddywedodd wrtho ef, Paham y cefais ffafr yn dy olwg di, fel y cymerit gydnabod arnaf, a minnau yn alltudes? A Boas a atebodd, ac a ddywedodd wrthi, Gan fynegi y mynegwyd i mi yr hyn oll a wnaethost i’th chwegr ar ôl marwolaeth dy ŵr; ac fel y gadewaist dy dad a’th fam, a gwlad dy enedigaeth, ac y daethost at bobl nid adwaenit o’r blaen. Yr ARGLWYDD a dalo am dy waith; a bydded dy obrwy yn berffaith gan ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn y daethost i obeithio dan ei adenydd.