Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ruth 2:1-12

Ruth 2:1-12 BCND

Yr oedd gan Naomi berthynas i'w gŵr, dyn cefnog o'r enw Boas o dylwyth Elimelech. Dywedodd Ruth y Foabes wrth Naomi, “Gad imi fynd i'r caeau ŷd i loffa ar ôl pwy bynnag fydd yn caniatáu imi.” Dywedodd Naomi wrthi, “Ie, dos, fy merch.” Felly fe aeth i'r caeau i loffa ar ôl y medelwyr, a digwyddodd iddi ddewis y rhandir oedd yn perthyn i Boas, y dyn oedd o dylwyth Elimelech. A dyna Boas ei hun yn cyrraedd o Fethlehem ac yn cyfarch y medelwyr, “Yr ARGLWYDD fyddo gyda chwi,” a hwythau'n ateb, “Bendithied yr ARGLWYDD dithau.” Yna gofynnodd Boas i'w was oedd yn gofalu am y medelwyr, “Geneth pwy yw hon?” Atebodd y gwas, “Geneth o Moab ydyw; hi a ddaeth yn ôl gyda Naomi o wlad Moab. Gofynnodd am ganiatâd i loffa a hel rhwng yr ysgubau ar ôl y medelwyr. Fe ddaeth, ac y mae wedi bod ar ei thraed o'r bore bach hyd yn awr, heb orffwys o gwbl.” Dywedodd Boas wrth Ruth, “Gwrando, fy merch, paid â mynd i loffa i faes arall na symud oddi yma, ond glŷn wrth fy llancesau i. Cadw dy lygaid ar y maes y maent yn ei fedi, a dilyn hwy. Onid wyf fi wedi gorchymyn i'r gweision beidio ag ymyrryd â thi? Os bydd syched arnat, dos i yfed o'r llestri a lanwodd y gweision.” Moesymgrymodd hithau hyd y llawr a dweud wrtho, “Pam yr wyf yn cael y fath garedigrwydd gennyt fel dy fod yn cymryd sylw ohonof fi, a minnau'n estrones?” Atebodd Boas hi a dweud, “Cefais wybod am y cwbl yr wyt ti wedi ei wneud i'th fam-yng-nghyfraith ar ôl marw dy ŵr, ac fel y gadewaist dy dad a'th fam a'th wlad enedigol, a dod at bobl nad oeddit yn eu hadnabod o'r blaen. Bydded i'r ARGLWYDD dy wobrwyo am dy weithred, a bydded iti gael dy dalu'n llawn gan yr ARGLWYDD, Duw Israel, y daethost i geisio nodded dan ei adain.”