Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ruth 2:1-12

Ruth 2:1-12 BWM

Ac i ŵr Naomi yr ydoedd câr, o ŵr cadarn nerthol, o dylwyth Elimelech, a’i enw Boas. A Ruth y Foabes a ddywedodd wrth Naomi, Gad i mi fyned yn awr i’r maes, a lloffa tywysennau ar ôl yr hwn y caffwyf ffafr yn ei olwg. Hithau a ddywedodd wrthi, Dos, fy merch. A hi a aeth, ac a ddaeth, ac a loffodd yn y maes ar ôl y medelwyr: a digwyddodd wrth ddamwain fod y rhan honno o’r maes yn eiddo Boas, yr hwn oedd o dylwyth Elimelech. Ac wele, Boas a ddaeth o Bethlehem, ac a ddywedodd wrth y medelwyr, Yr ARGLWYDD a fyddo gyda chwi. Hwythau a ddywedasant wrtho ef, Yr ARGLWYDD a’th fendithio. Yna y dywedodd Boas wrth ei was yr hwn oedd yn sefyll yn ymyl y medelwyr, Pwy biau y llances hon? A’r gwas yr hwn oedd yn sefyll wrth y medelwyr a atebodd, ac a ddywedodd, Y llances o Moab ydyw hi, yr hon a ddychwelodd gyda Naomi o wlad Moab: A hi a ddywedodd, Atolwg yr ydwyf gael lloffa, a chasglu ymysg yr ysgubau ar ôl y medelwyr: a hi a ddaeth, ac a arhosodd er y bore hyd yr awr hon, oddieithr aros ohoni hi ychydig yn tŷ. Yna y dywedodd Boas wrth Ruth, Oni chlywi di, fy merch? Na ddos i loffa i faes arall, ac na cherdda oddi yma; eithr aros yma gyda’m llancesau i. Bydded dy lygaid ar y maes y byddont hwy yn ei fedi; a dos ar eu hôl hwynt: oni orchmynnais i’r llanciau, na chyffyrddent â thi? A phan sychedych, dos at y llestri, ac yf o’r hwn a ollyngodd y llanciau. Yna hi a syrthiodd ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd i lawr, ac a ddywedodd wrtho ef, Paham y cefais ffafr yn dy olwg di, fel y cymerit gydnabod arnaf, a minnau yn alltudes? A Boas a atebodd, ac a ddywedodd wrthi, Gan fynegi y mynegwyd i mi yr hyn oll a wnaethost i’th chwegr ar ôl marwolaeth dy ŵr; ac fel y gadewaist dy dad a’th fam, a gwlad dy enedigaeth, ac y daethost at bobl nid adwaenit o’r blaen. Yr ARGLWYDD a dalo am dy waith; a bydded dy obrwy yn berffaith gan ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn y daethost i obeithio dan ei adenydd.