Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 9:19-29

Rhufeiniaid 9:19-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

“Ond os felly,” meddai un ohonoch chi, “pa hawl sydd gan Dduw i weld bai, gan fod neb yn gallu mynd yn groes i’w ewyllys?” Ond pwy wyt ti i ddadlau yn erbyn Duw? Dim ond person dynol wyt ti! “Oes gan y peth sydd wedi’i siapio hawl i ddweud wrth yr un wnaeth ei greu, ‘Pam wyt ti wedi fy ngwneud i fel hyn?’” Oes gan y crochenydd ddim hawl i ddefnyddio’r un lwmp o glai i wneud llestr crand neu i wneud llestr fydd yn dal sbwriel? A’r un fath, mae gan Dduw berffaith hawl i ddangos ei ddigofaint a’i nerth! Mae wedi bod mor amyneddgar gyda’r rhai sy’n haeddu dim byd ond cosb, ac sy’n dda i ddim ond i gael eu dinistrio! Ac mae’n barod i ddangos ei ysblander aruthrol, a’i rannu gyda’r rhai mae wedi dewis trugarhau wrthyn nhw, sef y rhai mae wedi’u paratoi ar gyfer hynny o’r dechrau cyntaf. Ac ie, ni ydy’r rheiny! – dim Iddewon yn unig, ond pobl o genhedloedd eraill hefyd! Fel mae’n dweud yn llyfr Hosea: “Galwaf ‘nid fy mhobl’ yn bobl i mi; a ‘heb ei charu’ yn un a gerir” a hefyd, “Yn yr union le lle dwedwyd wrthyn nhw, ‘Dych chi ddim yn bobl i mi’ byddan nhw’n cael eu galw yn blant y Duw byw.” Ac mae Eseia’n dweud fel hyn am Israel: “Hyd yn oed petai pobl Israel mor niferus â thywod y môr, dim ond gweddillion – rhyw nifer fechan – fydd yn cael eu hachub, Oherwydd yn fuan iawn bydd yr Arglwydd yn gorffen, ac yn gwneud beth ddwedodd ar y ddaear.” Mae’n union fel roedd Eseia wedi dweud yn gynharach: “Oni bai i Arglwydd y Lluoedd adael rhai ohonon ni’n fyw, bydden ni wedi’n dinistrio fel Sodom, ac wedi diflannu’n llwyr fel Gomorra.”