Ond fe ddywedi wrthyf, “Os felly, pam y mae Duw yn dal i feio pobl? Pwy a all wrthsefyll ei ewyllys?” Ie, ond pwy wyt ti, feidrolyn, i ateb Duw yn ôl? A yw hi'n debyg y dywed yr hyn a luniwyd wrth yr un a'i lluniodd, “Pam y lluniaist fi fel hyn?” Oni all y crochenydd lunio beth bynnag a fynno o'r clai? Onid oes hawl ganddo i wneud, o'r un telpyn, un llestr i gael parch a'r llall amarch? Ond beth os yw Duw, yn ei awydd i ddangos ei ddigofaint ac i amlygu ei nerth, wedi dioddef â hir amynedd y llestri hynny sy'n wrthrychau digofaint ac yn barod i'w dinistrio? Ei amcan yn hyn fyddai dwyn i'r golau y cyfoeth o ogoniant oedd ganddo ar gyfer y llestri sy'n wrthrychau trugaredd, y rheini yr oedd ef wedi eu paratoi ymlaen llaw i ogoniant. A ni yw'r rhain, ni sydd wedi ein galw, nid yn unig o blith yr Iddewon, ond hefyd o blith y Cenhedloedd. Fel y mae'n dweud yn llyfr Hosea hefyd: “Galwaf yn bobl i mi rai nad ydynt yn bobl i mi, a galwaf yn anwylyd un nad yw'n anwylyd; ac yn y lle y dywedwyd wrthynt, ‘Nid fy mhobl ydych’, yno, fe'u gelwir yn blant y Duw byw.” Ac y mae Eseia yn datgan am Israel: “Er i bobl Israel fod mor niferus â thywod y môr, gweddill yn unig fydd yn cael eu hachub; oherwydd llwyr a llym fydd dedfryd yr Arglwydd ar y ddaear.” A'r un yw neges gair blaenorol Eseia
Darllen Rhufeiniaid 9
Gwranda ar Rhufeiniaid 9
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Rhufeiniaid 9:19-29
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos