Ti a ddywedi gan hynny wrthyf, Paham y mae efe eto yn beio? canys pwy a wrthwynebodd ei ewyllys ef? Yn hytrach, O ddyn, pwy wyt ti yr hwn a ddadleui yn erbyn Duw? a ddywed y peth ffurfiedig wrth yr hwn a’i ffurfiodd, Paham y’m gwnaethost fel hyn? Onid oes awdurdod i’r crochenydd ar y priddgist, i wneuthur o’r un telpyn pridd un llestr i barch, ac arall i amarch? Beth os Duw, yn ewyllysio dangos ei ddigofaint, a pheri adnabod ei allu, a oddefodd trwy hirymaros lestri digofaint, wedi eu cymhwyso i golledigaeth: Ac i beri gwybod golud ei ogoniant ar lestri trugaredd, y rhai a ragbaratôdd efe i ogoniant, Sef nyni, y rhai a alwodd efe, nid o’r Iddewon yn unig, eithr hefyd o’r Cenhedloedd? Megis hefyd y mae efe yn dywedyd yn Hosea, Mi a alwaf yr hwn nid yw bobl i mi, yn bobl i mi; a’r hon nid yw annwyl, yn annwyl. A bydd yn y fangre lle y dywedwyd wrthynt, Nid fy mhobl i ydych chwi; yno y gelwir hwy yn feibion i’r Duw byw. Hefyd y mae Eseias yn llefain am yr Israel, Cyd byddai nifer meibion Israel fel tywod y môr, gweddill a achubir. Canys efe a orffen ac a gwtoga’r gwaith mewn cyfiawnder: oblegid byr waith a wna’r Arglwydd ar y ddaear. Ac megis y dywedodd Eseias yn y blaen, Oni buasai i Arglwydd y Sabaoth adael i ni had, megis Sodoma y buasem, a gwnaethid ni yn gyffelyb i Gomorra.
Darllen Rhufeiniaid 9
Gwranda ar Rhufeiniaid 9
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Rhufeiniaid 9:19-29
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos