Rhufeiniaid 14:13-23
Rhufeiniaid 14:13-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly, peidiwn mwyach â barnu ein gilydd. Yn hytrach, dyfarnwch nad oes neb i roi achlysur i rywun arall gwympo neu faglu. Mi wn i sicrwydd yn yr Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan ohono'i hun. Ond i rywun sy'n ystyried rhywbeth yn aflan y mae'r peth hwnnw yn aflan. Ac felly, os yw'r math o fwyd yr wyt ti'n ei fwyta yn achos gofid i arall, nid wyt ti mwyach yn ymddwyn yn ôl gofynion cariad. Paid â dwyn i ddistryw, â'th fwyd, unrhyw un y bu Crist farw drosto. Peidiwch â gadael i'r peth sy'n dda yn eich golwg gael gair drwg. Nid bwyta ac yfed yw teyrnas Dduw, ond cyfiawnder a heddwch a llawenydd yn yr Ysbryd Glân. Y mae'r sawl sy'n gwasanaethu Crist yn y modd hwn yn dderbyniol gan Dduw ac yn gymeradwy gan bawb. Felly gadewch inni geisio'r pethau sy'n arwain i heddwch, ac yn adeiladu perthynas gadarn â'n gilydd. Peidiwch â thynnu i lawr, o achos bwyd, yr hyn a wnaeth Duw. Y mae pob bwyd yn lân, ond y mae'n beth drwg i rywun fwyta a thrwy hynny beri cwymp i rywun arall. Y peth iawn yw peidio â bwyta cig nac yfed gwin, na gwneud dim a all beri i rywun arall gwympo. Cadw dy ffydd, yn hyn o beth, rhyngot ti a Duw. Dedwydd yw'r sawl nad yw'n ei gollfarnu ei hun yn yr hyn y mae'n ei gymeradwyo. Ond os bydd rhywun, er gwaethaf ei amheuon, yn bwyta pob peth, y mae wedi ei gollfarnu. Oherwydd nid o ffydd y bydd yn gweithredu. Ac y mae popeth nad yw'n tarddu o ffydd yn bechod.
Rhufeiniaid 14:13-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly gadewch i ni stopio beirniadu’n gilydd o hyn ymlaen. Yn lle hynny, gadewch i ni benderfynu peidio gwneud unrhyw beth fydd yn rhwystr i Gristion arall. Dw i fy hun, wrth ddilyn yr Arglwydd Iesu, yn credu’n gydwybodol fod yna ddim bwyd sy’n ‘aflan’ ynddo’i hun. Ond os ydy rhywun yn meddwl fod rhyw fwyd yn ‘aflan’, mae wir yn aflan i’r person hwnnw. Felly os wyt ti’n bwyta rhywbeth gan wybod ei fod yn broblem i Gristion arall, ti ddim yn dangos rhyw lawer o gariad. Paid gadael i dy arferion bwyta di wneud niwed i rywun arall wnaeth y Meseia farw drosto. A phaid gadael i beth sy’n iawn yn dy olwg di wneud i bobl sydd ddim yn Gristnogion amharchu’r Meseia. Dim beth wyt ti’n ei fwyta na’i yfed sy’n dangos fod Duw’n teyrnasu yn dy fywyd di. Perthynas iawn gyda Duw sy’n cyfri, a’r heddwch dwfn a’r llawenydd mae’r Ysbryd Glân yn ei roi. Mae’r un sy’n dilyn y Meseia fel yma yn plesio Duw ac yn cael ei barchu gan bobl eraill. Felly gadewch i ni wneud beth sy’n arwain at heddwch, ac sy’n cryfhau pobl eraill. Peidiwch dinistrio gwaith da Duw er mwyn cael bwyta beth fynnwch chi. Mae pob bwyd yn iawn i’w fwyta, ond ddylech chi ddim bwyta rhywbeth os ydy e’n creu problemau i rywun arall. Mae’n well dewis peidio bwyta cig am unwaith, a pheidio yfed gwin, a pheidio gwneud unrhyw beth fyddai’n achosi i Gristion arall faglu. Beth bynnag rwyt yn ei gredu am hyn i gyd, cadwa hynny rhyngot ti a Duw. Mae bendith fawr i’r un sydd ddim yn ei gondemnio ei hun drwy fynnu gwneud beth mae e’n gredu sy’n iawn o hyd! Ond mae’r person sydd ddim yn siŵr beth sy’n iawn yn ei gondemnio ei hun wrth fwyta – am beidio gwneud beth mae’n gredu fyddai Duw am iddo’i wneud. Mae peidio gwneud beth dŷn ni’n gredu mae Duw am i ni ei wneud yn bechod.
Rhufeiniaid 14:13-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny na farnwn ein gilydd mwyach: ond bernwch hyn yn hytrach, na bo i neb roddi tramgwydd i’w frawd, neu rwystr. Mi a wn, ac y mae yn sicr gennyf trwy’r Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan ohono’i hun: ond i’r hwn sydd yn tybied fod peth yn aflan, i hwnnw y mae yn aflan. Eithr os o achos bwyd y tristeir dy frawd, nid wyt ti mwyach yn rhodio yn ôl cariad. Na ddistrywia ef â’th fwyd, dros yr hwn y bu Crist farw. Na chabler gan hynny eich daioni chwi. Canys nid yw teyrnas Dduw fwyd a diod; ond cyfiawnder, a thangnefedd, a llawenydd yn yr Ysbryd Glân. Canys yr hwn sydd yn gwasanaethu Crist yn y pethau hyn, sydd hoff gan Dduw, a chymeradwy gan ddynion. Felly gan hynny dilynwn y pethau a berthynant i heddwch, a’r pethau a berthynant i adeiladaeth ein gilydd. O achos bwyd na ddinistria waith Duw. Pob peth yn wir sydd lân; eithr drwg yw i’r dyn sydd yn bwyta trwy dramgwydd. Da yw na fwytaer cig, ac nad yfer gwin, na dim trwy’r hyn y tramgwydder, neu y rhwystrer, neu y gwanhaer dy frawd. A oes ffydd gennyt ti? bydded hi gyda thi dy hun gerbron Duw. Gwyn ei fyd yr hwn nid yw yn ei farnu ei hun yn yr hyn y mae yn ei dybied yn dda. Eithr yr hwn sydd yn petruso, os bwyty, efe a gondemniwyd, am nad yw yn bwyta o ffydd: a pheth bynnag nid yw o ffydd, pechod yw.