Rhufeiniaid 14
14
Y Gwan a’r Cryf
1Derbyniwch y bobl hynny sy’n ansicr ynglŷn â rhai pethau. Peidiwch eu beirniadu nhw a gwneud rheolau caeth am bethau sy’n fater o farn bersonol. 2Er enghraifft, mae un person yn teimlo’n rhydd i fwyta unrhyw beth, ond mae rhywun arall yn ansicr ac yn dewis bwyta dim ond llysiau rhag ofn iddo fwyta rhywbeth na ddylai. 3Rhaid i’r rhai sy’n hapus i fwyta popeth beidio edrych i lawr ar y rhai sydd ddim yn gyfforddus i wneud hynny. A rhaid i’r bobl sy’n dewis peidio bwyta rhai pethau beidio beirniadu y rhai sy’n teimlo’n rhydd i fwyta – wedi’r cwbl mae Duw yn eu derbyn nhw! 4Oes gen ti hawl i ddweud y drefn wrth was rhywun arall? Meistr y gwas sy’n penderfynu os ydy beth mae’n ei wneud yn iawn ai peidio. Gad i’r Arglwydd benderfynu os ydy’r rhai rwyt ti’n anghytuno gyda nhw yn gwneud y peth iawn.
5Dyma i chi enghraifft arall: Mae rhai pobl yn gweld un diwrnod yn wahanol i bob diwrnod arall, hynny ydy, yn gysegredig. Ond mae pobl eraill yn ystyried pob diwrnod yr un fath. Dylai pawb fod yn hollol siŵr o’i safbwynt. 6Mae’r rhai sy’n meddwl fod rhywbeth arbennig am un diwrnod, yn ceisio bod yn ffyddlon i’r Arglwydd. Mae’r rhai sy’n dewis bwyta cig eisiau cydnabod mai’r Arglwydd sy’n ei roi, drwy ddiolch i’r Arglwydd amdano. Ond mae’r rhai sy’n dewis peidio bwyta, hwythau hefyd, yn ceisio bod yn ffyddlon i’r Arglwydd, ac yn rhoi’r diolch i Dduw. 7Dŷn ni ddim yn byw i’r hunan nac yn marw i’r hunan. 8Wrth fyw ac wrth farw, dŷn ni eisiau bod yn ffyddlon i’r Arglwydd. Pobl Dduw ydyn ni tra byddwn ni byw a phan fyddwn ni farw. 9Dyna pam gwnaeth y Meseia farw a dod yn ôl yn fyw – i fod yn Arglwydd ar y rhai sydd wedi marw a’r rhai sy’n dal yn fyw.
10Felly pam wyt ti mor barod i feirniadu dy gyd-Gristnogion ac edrych i lawr arnyn nhw? Cofia y bydd rhaid i bob un ohonon ni sefyll o flaen llys barn Duw. 11Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud:
“‘Mor sicr â’r ffaith fy mod i’n fyw,’ meddai’r Arglwydd,
‘Bydd pob glin yn plygu i mi,
a phob tafod yn rhoi clod i Dduw’” #
Eseia 45:23 (LXX)
12Bydd rhaid i bob un ohonon ni ateb drosto’i hun o flaen Duw.
13Felly gadewch i ni stopio beirniadu’n gilydd o hyn ymlaen. Yn lle hynny, gadewch i ni benderfynu peidio gwneud unrhyw beth fydd yn rhwystr i Gristion arall. 14Dw i fy hun, wrth ddilyn yr Arglwydd Iesu, yn credu’n gydwybodol fod yna ddim bwyd sy’n ‘aflan’ ynddo’i hun. Ond os ydy rhywun yn meddwl fod rhyw fwyd yn ‘aflan’, mae wir yn aflan i’r person hwnnw. 15Felly os wyt ti’n bwyta rhywbeth gan wybod ei fod yn broblem i Gristion arall, ti ddim yn dangos rhyw lawer o gariad. Paid gadael i dy arferion bwyta di wneud niwed i rywun arall wnaeth y Meseia farw drosto. 16A phaid gadael i beth sy’n iawn yn dy olwg di wneud i bobl sydd ddim yn Gristnogion amharchu’r Meseia. 17Dim beth wyt ti’n ei fwyta na’i yfed sy’n dangos fod Duw’n teyrnasu yn dy fywyd di. Perthynas iawn gyda Duw sy’n cyfri, a’r heddwch dwfn a’r llawenydd mae’r Ysbryd Glân yn ei roi. 18Mae’r un sy’n dilyn y Meseia fel yma yn plesio Duw ac yn cael ei barchu gan bobl eraill.
19Felly gadewch i ni wneud beth sy’n arwain at heddwch, ac sy’n cryfhau pobl eraill. 20Peidiwch dinistrio gwaith da Duw er mwyn cael bwyta beth fynnwch chi. Mae pob bwyd yn iawn i’w fwyta, ond ddylech chi ddim bwyta rhywbeth os ydy e’n creu problemau i rywun arall. 21Mae’n well dewis peidio bwyta cig am unwaith, a pheidio yfed gwin, a pheidio gwneud unrhyw beth fyddai’n achosi i Gristion arall faglu. 22Beth bynnag rwyt yn ei gredu am hyn i gyd, cadwa hynny rhyngot ti a Duw. Mae bendith fawr i’r un sydd ddim yn ei gondemnio ei hun drwy fynnu gwneud beth mae e’n gredu sy’n iawn o hyd! 23Ond mae’r person sydd ddim yn siŵr beth sy’n iawn yn ei gondemnio ei hun wrth fwyta – am beidio gwneud beth mae’n gredu fyddai Duw am iddo’i wneud. Mae peidio gwneud beth dŷn ni’n gredu mae Duw am i ni ei wneud yn bechod.
Dewis Presennol:
Rhufeiniaid 14: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023