1
Rhufeiniaid 14:17-18
beibl.net 2015, 2024
Dim beth wyt ti’n ei fwyta na’i yfed sy’n dangos fod Duw’n teyrnasu yn dy fywyd di. Perthynas iawn gyda Duw sy’n cyfri, a’r heddwch dwfn a’r llawenydd mae’r Ysbryd Glân yn ei roi. Mae’r un sy’n dilyn y Meseia fel yma yn plesio Duw ac yn cael ei barchu gan bobl eraill.
Cymharu
Archwiliwch Rhufeiniaid 14:17-18
2
Rhufeiniaid 14:8
Wrth fyw ac wrth farw, dŷn ni eisiau bod yn ffyddlon i’r Arglwydd. Pobl Dduw ydyn ni tra byddwn ni byw a phan fyddwn ni farw.
Archwiliwch Rhufeiniaid 14:8
3
Rhufeiniaid 14:19
Felly gadewch i ni wneud beth sy’n arwain at heddwch, ac sy’n cryfhau pobl eraill.
Archwiliwch Rhufeiniaid 14:19
4
Rhufeiniaid 14:13
Felly gadewch i ni stopio beirniadu’n gilydd o hyn ymlaen. Yn lle hynny, gadewch i ni benderfynu peidio gwneud unrhyw beth fydd yn rhwystr i Gristion arall.
Archwiliwch Rhufeiniaid 14:13
5
Rhufeiniaid 14:11-12
Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “‘Mor sicr â’r ffaith fy mod i’n fyw,’ meddai’r Arglwydd, ‘Bydd pob glin yn plygu i mi, a phob tafod yn rhoi clod i Dduw’” Bydd rhaid i bob un ohonon ni ateb drosto’i hun o flaen Duw.
Archwiliwch Rhufeiniaid 14:11-12
6
Rhufeiniaid 14:1
Derbyniwch y bobl hynny sy’n ansicr ynglŷn â rhai pethau. Peidiwch eu beirniadu nhw a gwneud rheolau caeth am bethau sy’n fater o farn bersonol.
Archwiliwch Rhufeiniaid 14:1
7
Rhufeiniaid 14:4
Oes gen ti hawl i ddweud y drefn wrth was rhywun arall? Meistr y gwas sy’n penderfynu os ydy beth mae’n ei wneud yn iawn ai peidio. Gad i’r Arglwydd benderfynu os ydy’r rhai rwyt ti’n anghytuno gyda nhw yn gwneud y peth iawn.
Archwiliwch Rhufeiniaid 14:4
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos