Felly gadewch i ni stopio beirniadu’n gilydd o hyn ymlaen. Yn lle hynny, gadewch i ni benderfynu peidio gwneud unrhyw beth fydd yn rhwystr i Gristion arall. Dw i fy hun, wrth ddilyn yr Arglwydd Iesu, yn credu’n gydwybodol fod yna ddim bwyd sy’n ‘aflan’ ynddo’i hun. Ond os ydy rhywun yn meddwl fod rhyw fwyd yn ‘aflan’, mae wir yn aflan i’r person hwnnw. Felly os wyt ti’n bwyta rhywbeth gan wybod ei fod yn broblem i Gristion arall, ti ddim yn dangos rhyw lawer o gariad. Paid gadael i dy arferion bwyta di wneud niwed i rywun arall wnaeth y Meseia farw drosto. A phaid gadael i beth sy’n iawn yn dy olwg di wneud i bobl sydd ddim yn Gristnogion amharchu’r Meseia. Dim beth wyt ti’n ei fwyta na’i yfed sy’n dangos fod Duw’n teyrnasu yn dy fywyd di. Perthynas iawn gyda Duw sy’n cyfri, a’r heddwch dwfn a’r llawenydd mae’r Ysbryd Glân yn ei roi. Mae’r un sy’n dilyn y Meseia fel yma yn plesio Duw ac yn cael ei barchu gan bobl eraill. Felly gadewch i ni wneud beth sy’n arwain at heddwch, ac sy’n cryfhau pobl eraill. Peidiwch dinistrio gwaith da Duw er mwyn cael bwyta beth fynnwch chi. Mae pob bwyd yn iawn i’w fwyta, ond ddylech chi ddim bwyta rhywbeth os ydy e’n creu problemau i rywun arall. Mae’n well dewis peidio bwyta cig am unwaith, a pheidio yfed gwin, a pheidio gwneud unrhyw beth fyddai’n achosi i Gristion arall faglu. Beth bynnag rwyt yn ei gredu am hyn i gyd, cadwa hynny rhyngot ti a Duw. Mae bendith fawr i’r un sydd ddim yn ei gondemnio ei hun drwy fynnu gwneud beth mae e’n gredu sy’n iawn o hyd! Ond mae’r person sydd ddim yn siŵr beth sy’n iawn yn ei gondemnio ei hun wrth fwyta – am beidio gwneud beth mae’n gredu fyddai Duw am iddo’i wneud. Mae peidio gwneud beth dŷn ni’n gredu mae Duw am i ni ei wneud yn bechod.
Darllen Rhufeiniaid 14
Gwranda ar Rhufeiniaid 14
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Rhufeiniaid 14:13-23
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos