Rhufeiniaid 10:17-21
Rhufeiniaid 10:17-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’n rhaid clywed cyn gallu credu – clywed rhywun yn rhannu’r newyddion da am y Meseia. Felly ai dweud ydw i fod yr Iddewon heb glywed? Na, fel arall yn hollol: “Mae pawb wedi clywed beth maen nhw’n ddweud, a’u neges wedi mynd i ben draw’r byd.” Felly, ai’r broblem ydy fod Israel heb ddeall y neges? Na! – Moses ydy’r cyntaf i roi ateb, “Bydda i’n gwneud i chi fod yn eiddigeddus o rai nad ydyn nhw’n genedl; a’ch gwneud yn ddig drwy fendithio pobl sy’n deall dim.” Ac roedd y proffwyd Eseia ddigon dewr i gyhoeddi fod Duw yn dweud, “Daeth pobl oedd ddim yn chwilio amdana i o hyd i fi; Dangosais fy hun i rai oedd ddim yn gofyn amdana i.” Ond mae’n dweud fel yma am Israel: “Bues i’n estyn fy llaw atyn nhw drwy’r adeg, ond maen nhw’n bobl anufudd ac ystyfnig.”
Rhufeiniaid 10:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly, o'r hyn a glywir y daw ffydd, a daw'r clywed trwy air Crist. Ond y mae'n rhaid gofyn, “A oedd dichon iddynt fethu clywed?” Nac oedd, yn wir, oherwydd: “Aeth eu lleferydd allan i'r holl ddaear, a'u geiriau hyd eithafoedd byd.” Ond i ofyn peth arall, “A oedd dichon i Israel fethu deall?” Ceir yr ateb yn gyntaf gan Moses: “Fe'ch gwnaf chwi'n eiddigeddus wrth genedl nad yw'n genedl, a'ch gwneud yn ddig wrth genedl ddiddeall.” Ac yna, y mae Eseia'n beiddio dweud: “Cafwyd fi gan rai nad oeddent yn fy ngheisio; gwelwyd fi gan rai nad oeddent yn holi amdanaf.” Ond am Israel y mae'n dweud: “Ar hyd y dydd bûm yn estyn fy nwylo at bobl anufudd a gwrthnysig.”
Rhufeiniaid 10:17-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny ffydd sydd trwy glywed, a chlywed trwy air Duw. Eithr meddaf, Oni chlywsant hwy? Yn ddiau i’r holl ddaear yr aeth eu sŵn hwy, a’u geiriau hyd derfynau y byd. Eithr meddaf, Oni wybu Israel? Yn gyntaf, y mae Moses yn dywedyd, Mi a baraf i chwi wynfydu trwy rai nid yw genedl; trwy genedl anneallus y’ch digiaf chwi. Eithr y mae Eseias yn ymhyfhau, ac yn dywedyd, Cafwyd fi gan y rhai nid oeddynt yn fy ngheisio; a gwnaed fi yn eglur i’r rhai nid oeddynt yn ymofyn amdanaf. Ac wrth yr Israel y mae yn dywedyd, Ar hyd y dydd yr estynnais fy nwylo at bobl anufudd ac yn gwrthddywedyd.