Rhufeiniaid 10:11-15
Rhufeiniaid 10:11-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Fydd pwy bynnag sy’n credu ynddo ddim yn cael ei siomi.” Mae’n union yr un fath i’r Iddew ac i bawb arall. Un Arglwydd sydd, ac mae’n rhoi yn hael o’i fendithion i bwy bynnag sy’n galw arno. Achos, “Bydd pwy bynnag sy’n galw ar enw’r Arglwydd yn cael ei achub.” Ond wedyn, sut mae disgwyl i bobl alw arno os ydyn nhw ddim wedi credu ynddo? A sut maen nhw’n mynd i gredu ynddo heb glywed amdano? Sut maen nhw’n mynd i glywed os ydy rhywun ddim yn dweud wrthyn nhw? A phwy sy’n mynd i ddweud wrthyn nhw heb gael ei anfon? Dyna mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei olygu wrth ddweud: “Mae mor wych fod y rhai sy’n cyhoeddi’r newyddion da yn dod!”
Rhufeiniaid 10:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae'r Ysgrythur yn dweud: “Pob un sy'n credu ynddo, ni chywilyddir mohono.” Nid oes dim gwahaniaeth rhwng Iddewon a Groegiaid. Yr un Arglwydd sydd i bawb, sy'n rhoi o'i gyfoeth i bawb sy'n galw arno. Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur, “bydd pob un sy'n galw ar enw yr Arglwydd yn cael ei achub, pwy bynnag yw.” Ond sut y mae pobl i alw ar rywun nad ydynt wedi credu ynddo? Sut y maent i gredu yn rhywun nad ydynt wedi ei glywed? Sut y maent i glywed, heb fod rhywun yn pregethu? Sut y maent i bregethu, heb gael eu hanfon? Fel y mae'r Ysgrythur yn dweud: “Mor weddaidd yw traed y rhai sy'n cyhoeddi newyddion da.”
Rhufeiniaid 10:11-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oblegid y mae’r ysgrythur yn dywedyd, Pwy bynnag sydd yn credu ynddo ef, ni chywilyddir. Canys nid oes gwahaniaeth rhwng Iddew a Groegwr: oblegid yr un Arglwydd ar bawb, sydd oludog i bawb a’r sydd yn galw arno. Canys pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, cadwedig fydd. Pa fodd gan hynny y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo? a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant amdano? a pha fodd y clywant, heb bregethwr? A pha fodd y pregethant, onis danfonir hwynt? megis y mae yn ysgrifenedig, Mor brydferth yw traed y rhai sydd yn efengylu tangnefedd, y rhai sydd yn efengylu pethau daionus!