Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 9:1-20

Salm 9:1-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Diolchaf i ti, ARGLWYDD, â'm holl galon, adroddaf am dy ryfeddodau. Llawenhaf a gorfoleddaf ynot ti, canaf fawl i'th enw, y Goruchaf. Pan dry fy ngelynion yn eu holau, baglant a threngi o'th flaen. Gwnaethost yn deg â mi yn fy achos, ac eistedd ar dy orsedd yn farnwr cyfiawn. Ceryddaist y cenhedloedd a difetha'r drygionus, a dileaist eu henw am byth. Darfu am y gelyn mewn adfeilion bythol; yr wyt wedi chwalu eu dinasoedd, a diflannodd y cof amdanynt. Ond y mae'r ARGLWYDD wedi ei orseddu am byth, ac wedi paratoi ei orsedd i farn. Fe farna'r byd mewn cyfiawnder, a gwrando achos y bobloedd yn deg. Bydded yr ARGLWYDD yn amddiffynfa i'r gorthrymedig, yn amddiffynfa yn amser cyfyngder, fel y bydd i'r rhai sy'n cydnabod dy enw ymddiried ynot; oherwydd ni adewaist, ARGLWYDD, y rhai sy'n dy geisio. Canwch fawl i'r ARGLWYDD sy'n trigo yn Seion, cyhoeddwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd. Fe gofia'r dialydd gwaed amdanynt; nid yw'n anghofio gwaedd yr anghenus. Bydd drugarog wrthyf, O ARGLWYDD, sy'n fy nyrchafu o byrth angau; edrych ar fy adfyd oddi ar law y rhai sy'n fy nghasáu, imi gael adrodd dy holl fawl a llawenhau yn dy waredigaeth ym mhyrth merch Seion. Suddodd y cenhedloedd i'r pwll a wnaethant eu hunain, daliwyd eu traed yn y rhwyd yr oeddent hwy wedi ei chuddio. Datguddiodd yr ARGLWYDD ei hun, gwnaeth farn; maglwyd y drygionus gan waith ei ddwylo'i hun. Higgaion. Sela Bydded i'r drygionus ddychwelyd i Sheol, a'r holl genhedloedd sy'n anghofio Duw. Oherwydd nid anghofir y tlawd am byth, ac ni ddryllir gobaith yr anghenus yn barhaus. Cyfod, ARGLWYDD; na threched meidrolion, ond doed y cenhedloedd i farn o'th flaen. Rho arswyd ynddynt, ARGLWYDD, a bydded i'r cenhedloedd wybod mai meidrol ydynt. Sela

Salm 9:1-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Addolaf di, ARGLWYDD, o waelod calon; a sôn am yr holl bethau rhyfeddol wnest ti. Byddaf yn llawen, a gorfoleddaf ynot. Canaf emyn o fawl i dy enw, y Goruchaf. Pan mae fy ngelynion yn ceisio dianc, maen nhw’n baglu ac yn cael eu dinistrio o dy flaen di, am dy fod ti’n camu i mewn a gweithredu ar fy rhan i. Ti’n eistedd ar yr orsedd ac yn dyfarnu’n gyfiawn. Ti sy’n ceryddu’r cenhedloedd, yn dinistrio’r rhai drwg, ac yn cael gwared â nhw am byth bythoedd! Mae hi ar ben ar y gelyn! Mae eu trefi’n adfeilion, a fydd neb yn cofio ble roedden nhw. Ond mae’r ARGLWYDD yn teyrnasu am byth! Mae ar ei orsedd, yn barod i farnu. Bydd yn barnu’n deg, ac yn llywodraethu’r gwledydd yn gyfiawn. Mae’r ARGLWYDD yn hafan ddiogel i’r rhai sy’n cael eu gorthrymu – yn hafan pan maen nhw mewn trafferthion. Mae’r rhai sy’n dy nabod di yn dy drystio di. Ti ddim yn troi cefn ar y rhai sy’n dy geisio di, O ARGLWYDD. Canwch fawl i’r ARGLWYDD sy’n teyrnasu yn Seion! Dwedwch wrth bawb beth mae wedi’i wneud! Dydy e ddim yn diystyru cri y rhai sy’n dioddef; mae’r un sy’n dial ar y llofruddion yn gofalu amdanyn nhw. Dangos drugaredd ata i, O ARGLWYDD; edrych fel mae’r rhai sy’n fy nghasáu yn gwneud i mi ddioddef. Dim ond ti all fy nghadw rhag mynd drwy giatiau marwolaeth. Wedyn bydda i’n dy foli di o fewn giatiau Seion hardd. Bydda i’n dathlu am dy fod wedi fy achub i! Mae’r cenhedloedd wedi llithro i’r twll wnaethon nhw ei gloddio, a’u traed wedi mynd yn sownd yn y rhwyd wnaethon nhw ei chuddio. Mae’r ARGLWYDD wedi dangos sut un ydy e! Mae e’n gwneud beth sy’n iawn. Mae’r rhai drwg wedi’u dal gan eu dyfais eu hunain. (Yn ddwys:) Saib Bydd y rhai drwg yn mynd i fyd y meirw. Dyna dynged y cenhedloedd sy’n diystyru Duw! Ond fydd y rhai mewn angen ddim yn cael eu hanghofio am byth; fydd gobaith ddim yn diflannu i’r rhai sy’n cael eu cam-drin. Cod, O ARGLWYDD! Paid gadael i ddynion meidrol gael eu ffordd! Boed i’r cenhedloedd gael eu barnu gen ti! Dychryn nhw, O ARGLWYDD! Gad iddyn nhw wybod mai dim ond dynol ydyn nhw! Saib

Salm 9:1-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Clodforaf di, O ARGLWYDD, â’m holl galon: mynegaf dy holl ryfeddodau. Llawenychaf a gorfoleddaf ynot: canaf i’th enw di, y Goruchaf. Pan ddychweler fy ngelynion yn eu hôl, hwy a gwympant ac a ddifethir o’th flaen di. Canys gwnaethost fy marn a’m mater yn dda: eisteddaist ar orseddfainc, gan farnu yn gyfiawn. Ceryddaist y cenhedloedd, distrywiaist yr annuwiol; eu henw hwynt a ddileaist byth bythol. Ha elyn, darfu am ddinistr yn dragywydd: a diwreiddiaist y dinasoedd; darfu eu coffadwriaeth gyda hwynt. Ond yr ARGLWYDD a bery yn dragywydd: efe a baratôdd ei orseddfainc i farn. Ac efe a farn y byd mewn cyfiawnder: efe a farn y bobloedd mewn uniondeb. Yr ARGLWYDD hefyd fydd noddfa i’r gorthrymedig, noddfa yn amser trallod. A’r rhai a adwaenant dy enw, a ymddiriedant ynot: canys ni adewaist, O ARGLWYDD, y rhai a’th geisient. Canmolwch yr ARGLWYDD, yr hwn sydd yn preswylio yn Seion: mynegwch ymysg y bobloedd ei weithredoedd ef. Pan ymofynno efe am waed, efe a’u cofia hwynt: nid anghofia waedd y cystuddiol. Trugarha wrthyf, ARGLWYDD; gwêl fy mlinder gan fy nghaseion, fy nyrchafydd o byrth angau: Fel y mynegwyf dy holl foliant ym mhyrth merch Seion: llawenychaf yn dy iachawdwriaeth. Y cenhedloedd a soddasant yn y ffos a wnaethant: yn y rhwyd a guddiasant, y daliwyd eu troed eu hun. Adwaenir yr ARGLWYDD wrth y farn a wna: yr annuwiol a faglwyd yng ngweithredoedd ei ddwylo ei hun. Higgaion. Sela. Y rhai drygionus a ymchwelant i uffern, a’r holl genhedloedd a anghofiant DDUW. Canys nid anghofir y tlawd byth: gobaith y trueiniaid ni chollir byth. Cyfod, ARGLWYDD; na orfydded dyn: barner y cenhedloedd ger dy fron di. Gosod, ARGLWYDD, ofn arnynt: fel y gwybyddo y cenhedloedd mai dynion ydynt. Sela.