Diolchaf i ti, ARGLWYDD, â'm holl galon,
adroddaf am dy ryfeddodau.
Llawenhaf a gorfoleddaf ynot ti,
canaf fawl i'th enw, y Goruchaf.
Pan dry fy ngelynion yn eu holau,
baglant a threngi o'th flaen.
Gwnaethost yn deg â mi yn fy achos,
ac eistedd ar dy orsedd yn farnwr cyfiawn.
Ceryddaist y cenhedloedd a difetha'r drygionus,
a dileaist eu henw am byth.
Darfu am y gelyn mewn adfeilion bythol;
yr wyt wedi chwalu eu dinasoedd,
a diflannodd y cof amdanynt.
Ond y mae'r ARGLWYDD wedi ei orseddu am byth,
ac wedi paratoi ei orsedd i farn.
Fe farna'r byd mewn cyfiawnder,
a gwrando achos y bobloedd yn deg.
Bydded yr ARGLWYDD yn amddiffynfa i'r gorthrymedig,
yn amddiffynfa yn amser cyfyngder,
fel y bydd i'r rhai sy'n cydnabod dy enw ymddiried ynot;
oherwydd ni adewaist, ARGLWYDD, y rhai sy'n dy geisio.
Canwch fawl i'r ARGLWYDD sy'n trigo yn Seion,
cyhoeddwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd.
Fe gofia'r dialydd gwaed amdanynt;
nid yw'n anghofio gwaedd yr anghenus.
Bydd drugarog wrthyf, O ARGLWYDD, sy'n fy nyrchafu o byrth angau;
edrych ar fy adfyd oddi ar law y rhai sy'n fy nghasáu,
imi gael adrodd dy holl fawl
a llawenhau yn dy waredigaeth ym mhyrth merch Seion.
Suddodd y cenhedloedd i'r pwll a wnaethant eu hunain,
daliwyd eu traed yn y rhwyd yr oeddent hwy wedi ei chuddio.
Datguddiodd yr ARGLWYDD ei hun, gwnaeth farn;
maglwyd y drygionus gan waith ei ddwylo'i hun.
Higgaion. Sela
Bydded i'r drygionus ddychwelyd i Sheol,
a'r holl genhedloedd sy'n anghofio Duw.
Oherwydd nid anghofir y tlawd am byth,
ac ni ddryllir gobaith yr anghenus yn barhaus.
Cyfod, ARGLWYDD; na threched meidrolion,
ond doed y cenhedloedd i farn o'th flaen.
Rho arswyd ynddynt, ARGLWYDD,
a bydded i'r cenhedloedd wybod mai meidrol ydynt.
Sela