Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 9:1-20

Y Salmau 9:1-20 BWM

Clodforaf di, O ARGLWYDD, â’m holl galon: mynegaf dy holl ryfeddodau. Llawenychaf a gorfoleddaf ynot: canaf i’th enw di, y Goruchaf. Pan ddychweler fy ngelynion yn eu hôl, hwy a gwympant ac a ddifethir o’th flaen di. Canys gwnaethost fy marn a’m mater yn dda: eisteddaist ar orseddfainc, gan farnu yn gyfiawn. Ceryddaist y cenhedloedd, distrywiaist yr annuwiol; eu henw hwynt a ddileaist byth bythol. Ha elyn, darfu am ddinistr yn dragywydd: a diwreiddiaist y dinasoedd; darfu eu coffadwriaeth gyda hwynt. Ond yr ARGLWYDD a bery yn dragywydd: efe a baratôdd ei orseddfainc i farn. Ac efe a farn y byd mewn cyfiawnder: efe a farn y bobloedd mewn uniondeb. Yr ARGLWYDD hefyd fydd noddfa i’r gorthrymedig, noddfa yn amser trallod. A’r rhai a adwaenant dy enw, a ymddiriedant ynot: canys ni adewaist, O ARGLWYDD, y rhai a’th geisient. Canmolwch yr ARGLWYDD, yr hwn sydd yn preswylio yn Seion: mynegwch ymysg y bobloedd ei weithredoedd ef. Pan ymofynno efe am waed, efe a’u cofia hwynt: nid anghofia waedd y cystuddiol. Trugarha wrthyf, ARGLWYDD; gwêl fy mlinder gan fy nghaseion, fy nyrchafydd o byrth angau: Fel y mynegwyf dy holl foliant ym mhyrth merch Seion: llawenychaf yn dy iachawdwriaeth. Y cenhedloedd a soddasant yn y ffos a wnaethant: yn y rhwyd a guddiasant, y daliwyd eu troed eu hun. Adwaenir yr ARGLWYDD wrth y farn a wna: yr annuwiol a faglwyd yng ngweithredoedd ei ddwylo ei hun. Higgaion. Sela. Y rhai drygionus a ymchwelant i uffern, a’r holl genhedloedd a anghofiant DDUW. Canys nid anghofir y tlawd byth: gobaith y trueiniaid ni chollir byth. Cyfod, ARGLWYDD; na orfydded dyn: barner y cenhedloedd ger dy fron di. Gosod, ARGLWYDD, ofn arnynt: fel y gwybyddo y cenhedloedd mai dynion ydynt. Sela.